Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hanfon

hanfon

Gofynnais i wraig y llythyrdy beidio â'u hanfon tan ddydd Sadwrn er mwyn imi fod adref yng Nghroesor i'w derbyn - rhag dychryn Nel gyda'r fath faich o lyfrau.

Yn yr un cyfnod, aeth Morris Williams, perchen Gwasg Gee ers rhyw flwyddyn ar y pryd, yn aelod o gyngor Bwrdeistref Dinbych; a gallodd roi gwybod am ei lwyddiant i'r Tri yn eu carchar, drwy lunio stori fer am lwyddiant y Blaid Ddirwestol mewn etholiad yn Nhretomos (Tomos Gee, wrth gwrs) a'i hanfon i'r Eisteddfod Genedlaethol i'w beirniadu gan DJ Williams, yntau wedi cael caniatâd yr awdurdodau i feirniadu o'r carchar.

Ym mhob maes parcio Steddfod neu sioe y mae yna rywun y mae'n rhaid iddyn nhw gael arafu i ofyn i stiward am gael parcio rywle gwahanol i lle mae hwnnw eisiau eu hanfon.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Rhyfel Vietnam yn gwaethygu wrth i awyrennau America ymosod â bomiau ac wedi i 53,500 o filwyr gael eu hanfon i'r wlad.

mae'r archif sain unigryw hon o fywyd Cymru wedii hanfon i Gronfa Cof y Mileniwm yn y Llyfrgell Brydeinig.

Rhyfel Vietnam yn gwaethygu wrth i awyrennau America ymosod â bomiau ac wedi i 53,500 o filwyr gael eu hanfon i'r wlad.

(ch)Croesfan Merllyn, Criccieth (Dygwyd yr eitem hon gerbron fel mater o frys ar ardystiad y Cadeirydd oherwydd y derbyniwyd llythyr gan y Rheilffyrdd Prydeinig ar ôl i'r rhaglen gael ei hanfon at yr aelodau a'r brys i ymateb).

Mae'r archif sain unigryw hon o fywyd Cymru wedi'i hanfon i Gronfa Cof y Mileniwm yn y Llyfrgell Brydeinig.

Mae'r cyfrifiaduron yn cael eu cynnig yn wobr am y ddwy wefan orau fydd yn cael eu hanfon i'r gystadleuaeth.

Rhwymais hwy'n barsel ar wahân i'r gweddill ac yn lle eu hanfon drwy'r post fe'u cariais yn barchus dan fy mraich.

Neu eu hanfon ar hyd a lled y ddaear ar ryw dasg megis cyrchu llond rhidyll o Wynt y Dwyrain, neu ddrych sy'n dweud celwydd.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod nwyddau' n cael eu hanfon cyn dyddiad darlledu'r cyfresi pethnasol.

Ond eu hanfon a wnaed; 'roedd y llyfrau acw yn fy nisgwyl.

(c) Pont Rhyd Hir, Ffordd y Cob, Pwllheli (Dygwyd yr eitem hon gerbron fel mater o frys ar ardystiad y Cadeirydd oherwydd y derbyniwyd llythyr gan Gyfarwyddwr Priffyrdd y Cyngor Sir ar ôl i'r rhaglen gael ei hanfon at yr aelodau a'r brys i ymateb).

Yn nes ymlaen, wedi i mi a gweddill y criw fynd drwy'r rheolfa basport, sylwais fod Siwsan wedi cael ei throi yn ôl a'i hanfon i swyddfa arbennig.

Does 'na ddim smic mewn theatr os ydy'r gynulleidfa'n mwynhau eu hunain - ond os nad ydyn nhw, mae nhw'n rhyw wingo yn eu seddau ac yn pesychu,' ac er ei bod yn cael budd mawr o drafod yr amrywiol gymeriadau y mae'r cyfarwyddwr yn eu hanfon ei ffordd hi gyda'i chyd-actorion, aiff Judith yn ôl at ei greddfau ei hun er mwyn mynd dan groen y cymeriad.

Cymhellion gwahanol garfannau o rieni o blaid addysg Gymraeg; pa ddelwedd o'r Gymraeg neu ddisgwyliadau sydd gan rieni dros eu plant wrth eu hanfon i ysgol Gymraeg; pa ddelwedd sydd gan "Yr Ysgol Gymraeg" fel sefydliad, heb sôn am ysgol unigol?

Terfysg yn y maes glo a saith dyn a phedair merch o Fedwas yn cael eu hanfon i garchar.

Mae sôn iddo ysgrifennu penillion a'u hanfon i'r Clorianydd, yn disgrifio un teulu mwy crintachlyd na'i gilydd.