Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hannog

hannog

Byddai'n braf petaent yn cael eu hannog i gyd-weithio a chyd-gyfrannu, a hynny mewn ysgol hapus ag adnoddau digonol.

Yr oedd hi bob amser yn ein hannog i ddarllen.

Yna dyma nhw'n troi i ddannedd y gwynt ac yn eu hannog ymlaen rhwng y brigau a fflangellai eu hwynebau.

Fel mater o flaenoriaeth, dylai'r Cynulliad arwain ymgyrch marchnata eang wedi ei thargedu yn arbennig at bobl ifanc er mwyn meithrin hyder yn y Gymraeg a'u hannog i'w dysgu a'i defnyddio.

Mwy o ymarfer dyn am ddyn gan atgoffar unigolyn o'r grefft o guro gwrthwynebwydd yn ogystal au hannog i fentron amlach.

Anfonwyd at y canghennau i'w hannog i sefyll mewn etholiadau lleol: nid anogaeth wreiddiol iawn, ond mae'r anogaeth yn llai pwysig na'r neges o'i blaen, sef bod y Tri yn y carchar am na wnaethai aelodau'r Blaid eu dyletswydd o ennill seddau ar y cynghorau lleol.

Mae Doreen a Hazel yn ei hannog i gyfaddef y gwir, ond mae Sab yn benderfynol o roi tro arni.

Mae gan nifer o'r gwahanol fathau o adar hoff fwydydd, felly gallwn eu hannog i ddod i mewn i iard yr ysgol trwy dyfu mwy o'r planhigion hyn:

Ychydig iawn a wyddom am y dyn ei hun ond dywedir mai ef a gyfansoddodd y rhan fwyaf o'r chwedlau gan eu hadrodd wrth yr hen Roegiaid i'w diddanu a'u hannog i feddwl ar yr un pryd.

Bu ef ei hun yn ei hannog i'w darllen.

Y nod yw creu cymdeithas ddysgu drwy gymell pobl i newid o fod yn wylwyr goddefol i fod yn ddysgwyr gweithredol drwy eu hannog a rhoi hunan-hyder iddynt.

Roedd pennaeth yr heddlu yn feddw yn sgwrsio mewn hanner Tsineag a hanner Saesneg gan geiso ein hannog i fynd i ganu karaoke.

Ymddengys felly fod angen dylanwadu ar agweddau ac arferion pobl tuag at ddefnyddio'r iaith Gymraeg, er mwyn eu hannog i wneud y gorau o'r cyfleoedd sydd, neu a fydd, ar gael iddynt.

'Dal ar y cyfla ro'n i, Pyrs, i ga'l gair bach efo fy Nhad nefol.' 'A finna'n fa'ma, â chymaint o bwn gin i â bastard mul Nant Pwdin ar noson ffair.' 'Rydan ni yn ca'l ein hannog yn y Beibl i weddi%o'n ddi-baid.' 'Ydach, mi wn.

Wedi mynd trwy danchwa'r dosbarth Ysgol Sul hwnnw yn Seilo (ac wedi darganfod The Future of an Illusion, o waith Freud yn llyfrgell y Coleg Ger y lli ryw ddeuddydd cyn Sul y danchwa!), 'doedd dim rhaid i mi wrth na Rudolf Bultmann na Phaul Tillich na'r un enaid arall i'm hannog i ddadfythu'r Testament Newydd.

Rydym yn sicr fod ysbrydion yr aelodau cynnar wedi bod gyda ni yn Mallorca yn ein hannog a'n cefnogi.

Yr hyn a wnaed oedd rhoi bwndeli o slipiau bach o bapur, a'r Cyfamod wedi ei argraffu arnynt, i gefnogwyr a'u hannog i'w dosbarthu a chael cenwau arnynt yn y gwaith, y siop, yr ysgol ac ati.