Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hanu

hanu

Amlygir hynny yn y cyfeiriad a wna Siôn Mawddwy at yr uchelwr a'i wraig yn cyd-dynnu am eu bod yn hanu o'r iawn ryw ('Chwi a'ch bun, iawn yw'ch bonedd').

Gan fod y greadigaeth oll, yng ngolwg Irenaeus, yn hanfodol un, y mae dyn yn hanu o'r ddaear, a'r ddaear yn ddibynnol ar ddyn.

Mae'r grwp, sy'n hanu o Lanberis, wedi ffurfio ers rhai blynyddoedd bellach ond dyma'r gwir gynnyrch cyntaf iddyn nhw ryddhau.

Ar wahân i gyfnod byr o ymddeoliad o fyd gwleidyddiaeth yn yr wythdegau, mae Chretian, sy'n hanu o deulu dosbarth gweithiol yn Que/ bec, wedi bod yn rhan o'r dodrefn gwleidyddol yn Ottawa ers dyddiau P.I

Dau o wŷr sir Gar oedd dau dad-cu Euros, y naill yn hanu o'r Pwll,

Rhys Stephen (Gwyddonwyson) gweinidog amlwg ym Manceinion a chefnogwr brwd i Ieuan Gwynedd a oedd yn hanu o Dredegar - fe ystyriwyd offeiriaid sir Fynwy hefyd yn fradwyr ar ôl i'w tystiolaeth i'r Comisiwn gael ei chyhoeddi.

Erbyn heddiw, byddaf yn meddwl hwyrach ei fod yn gwybod fy mod yn hanu o Fynytho a bod gennyf ddiddordeb mewn barddoni, fel llawer o'r ardal honno.

Mae aelodaur grwp - Marc Flanagan, Sion Evans, Meic Parry a Richard Chitty yn hanu o ardal Caernarfon ac ymhlith un ou dylanwadau penna mae'r Big Leaves.

Y grwpiau amlycaf i hanu o'r dref brysuraf yng Nghymru ydi Diems a Hyrbi ond erbyn hyn mae yna griw arall o'r Port wedi ymddangos ar y sîn, a does dim amheuaeth eu bod nhw wedi gwneud eu marc yn barod.

Mae'n arwyddocaol fod tad un o'm ffrindiau cyntaf yn y Cei wedi bod yn lowr a bod mam-gu un arall yn hanu o Gernyw.

Mae gennyf ffydd yn y Cymru Mr Graham Hulse - sy'n hanu, yn ol a ddeallaf, o ardal Wrecsam.

Mae'n hanu o dde Cymru.