Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hapusach

hapusach

Ar y ffordd nôl trwy'r dref, penderfynodd brynu tipyn bach o dinsel i wneud iddo'i hun deimlo'n hapusach.

Rwyn llawer hapusach lawr fan hyn na fues i erioed yn Leeds.

Yn ôl yr enillydd Gwobr Nobel, Dr James Watson, y mae rhesymau gwyddonol da pam y mae merched tewion yn hapusach na rhyw styllod fel Kate Moss.

Yn bersonol, mi fyddwn in hapusach cael yr aelodau o ansawdd yn gyntaf ac wedyn ymddiried mwy o rym iddyn nhw.

Mae'n siwr fy mod yn teimlo'n hapusach ar yr olaf o'r tripiau hynny nag y gwnawn yn awr ar y daith hon.

Yn wir maen nhw'n hapusach, fel y dwedais i na phe byddai eu cyflog yn codi deirgwaith.

Lle digon diffaith oedd Nant y Gors a'r sôn oedd mai crafu bywoliaeth a wnâi Ham, ond ni welais i erioed neb hapusach.

Fe ddaw cyn hir." "Ac er mwyn ceisio gwneud y Nadolig ychydig yn hapusach i bawb," roedd y Maer yn siarad eto, "rydw i wedi rhoi gorchymyn i holl blant ysgol y dref yma fynd o gwmpas i ganu carolau.

Yn wir, ni hidiai'r golygydd fotwm corn a gâi'r Ymofynnydd ei got yn ôl ar ei gefn ai peidio, oherwydd nad 'wrth ei glawr mae adnabod cylchgrawn', ac os y byddai gweld yr hen ŵr heb ei gôt 'yn foddion i rywun dynnu ei gôt a thorchi ei lewys', ni byddai neb yn hapusach nag ef.

Un noson, ar ol llaetho'n o drwm ar ffroth ffrwyth yr heiddan yn y Spite Inn, ni bu deuawd hapusach yn mynd am eu cartra na Rondol a Begw.

Mae'r newidiadau wedi rhoi awyrgylch ysgafnach a hapusach i'r clwb, ac rydym yn gobeithio bydd y llwyddiant a gafwyd yn y gorffennol yn parhau.

Fues i rioed yn hapusach, ac i Vatilan mae'r diolch am bob dim...'

O wybod am ei chefndir bydd yn llawer hapusach yn eu cwmni hwy nac yng nghwmni'r Llyfrgellwyr.

Mi hoffwn i fedru gofyn iti ddod acw ond dydi Megan ddim yn rhy dda'r dyddiau hyn, fel gwyddost ti." "Doeddwn i ddim yn disgwl y fath beth." "Fydd hi ddim mor hawdd dod i dy weld ti yn Lloegr ond mi fydda i'n hapusach o wybod dy fod ti'n câl gofal a thitha wedi bod yn cwyno cymaint yn ddiweddar.

Taro tant hapusach a wnaeth y paratoi ar gyfer priodas benigamp ym mis Medi, rhwng merch y Foneddiges Stepney, sef Meriel, a Syr Stafford Howard o Gastell Thornbury.

'Ifan Paraffîn yn dreifio ar 'i dîn.' Aeth yntau ymlaen â'i genhadaeth yn hapusach dyn.