Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hardal

hardal

Rhoddodd amlinelliad o'r camau a gymerwyd i gwblhau'r gwaith, drwy adrodd bod y cynghorau cymuned yn edrych ar y sefyllfa o fewn eu hardal eu hunain ond bod y cynghorau sir a dosbarth yn edrych ar y sefyllfa strategol i ardal ehangach ac felly bod gwahaniaethau barn yn sicr o ddigwydd.

Mae'r Ddeddf Plant yn gosod rheidrwydd ar yr awdurdodau lleol i gadw cofrestr o blant gydag anableddau yn eu hardal.

Mae'n addas inni ein cyflwyno ein hunain, ein teulu, ein ffrindiau, ein hardal, a'n gwlad i'r Duw trugarog sy'n cofio mai llwch ydym ac yn ein cylchynu â'r gras a ddatguddiodd mor ysblennydd inni yn ei Fab, Iesu Grist, sydd yr un ddoe, heddiw ac am byth.

Roedd ardaloedd lle roedd gan y Blaid ganghennau mewn hen etholaethau nad oedd wedi canfasio eu hardal.

Roedd Mrs Williams yn enedigol o Drefriw a glynnodd yn ei hardal gydol ei hoes.

yn datgan ei barn i'r cyw cog hwn oedd yn mynd i nythu yn ei hardal ac ymyrryd a'i pharadwys!yn groenlan, a hardd ei dalcen, a'r gwallt crychfelyn yn pluo pant ei wegil fel shafins coed yn cyrflio ar foncyff cam.

Mae'r uchelwyr Cymraeg yn dal i deimlo diddordeb ym materion eu hardal enedigol ond y maent ar yr un pryd yn dod yn aelodau cyflawnach o'r sefydliad canghennog a grewyd gan y Tuduriaid i asio Cymru wrth Loegr.

"Dwi isio iddyn nhw gynnig pethau sy'n bwysig iddyn nhw, i'w hoedran nhw a'u hardal nhw." Dyna pam ei bod wedi mynd i ysgolion mewn ardaloedd tra gwahanol o'r wlad i chwilio am bobl ifainc i gymryd rhan yn y gyfres - Yr Wyddgrug, Llanfyllin, Llanfair Caereinion, Llanelli, Caernarfon, Blaenau Ffestiniog, Pontypridd a Chwmbran.

Plant fydd yn adrodd y straeon sy'n berthnasol i'w hardal eu hunain yn ogystal â storïau mwy cyffredinol.

Oherwydd eu qallu i deithio'n rhwvdd o le i le, ac er gwaetha'r anhwylustod a'r costau, ânt hwy i weithio y tu allan i'w hardal a byw gartref ym Mro'r Eifl.

Dengys ein profiad ar hyn o bryd, tra bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn gefnogol iawn i'n gwaith yn gyffredinol, nad yw eu cyllid hwy o anghenraid yn gallu ymestyn yn gymesur â'n gwasanaeth ni yn eu hardal wrth i hwnnw ehangu.

Ni wyddwn ychwaith ei bod wedi ei hiacha/ u nes imi ei gweld ddwy flynedd wedi hynny pan ddaeth ar ei gwyliau i'm hardal.

O ganlyniad, bydd rhai ohonynt yn colli eu hyder ac ambell waith eu gallu'n gyfan gwbl i ddefnyddio'r iaith ar ôl gadael yr ysgol, yn enwedig os nad yw'r iaith yn cael ei defnyddio'n naturiol yn eu hardal.

Mae'r amgylchiad yn cael ei gofio gyda gorymdaith ym mhob tref gyda'r holl luoedd arfog yn cymryd rhan ochr yn ochr ag ysgolion a gwahanol gymdeithasau - pawb yng ngwisg eu hardal.

Tra bo 53% yn dweud fod dyfodol i'r iaith ledled Cymru yn gyffredinol, 41% yn unig oedd o'r farn fod dyfodol i'r Gymraeg yn eu hardal hwy.

Wedyn, yn ôl blyrb y Bwrdd, 'mae pwyntiau eraill yn dangos ambell her sy'n wynebu'r iaith' — dim ond 41% a gredai bod dyfodol i'r iaith Gymraeg yn eu hardal hwy.