Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hardaloedd

hardaloedd

Trwy gydol yr amser yr oedd aleodau'r Gymdeithas ledled Cymru yn gweithio'n galed o ddydd i ddydd yn trefnu adloniant Cymraeg, yn cynnal cyrsiau Cymraeg i ddysgwyr ac yn hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn eu hardaloedd eu hunain.

Yn yr hen amser yr Eglwysi oedd yr unig sefydliadau o bwys yn ein hardaloedd, ac yr oedd yr eglwysi anghydffurfiol o leiaf yn credu fod hyrwyddo diwylliant trwy gyfrwng eisteddfod yn rhan o'i gwaith.

Deuai pobl o bob rhan o Gymru i edrych ar y Cloc Blodau rhyfeddol hwn, a dechreuodd rhai rhannau eraill o Gymru feddwl o ddifrif am gynllunio yr un fath o beth i ddenu ymwelwyr i'w hardaloedd nhw yn y dyfodol.

At hynny, y mae'r Gymdeithas wedi galw am y canlynol: bod y Swyddfa Gymreig yn comisiynu ac yn noddi prosiect ymchwil ar 'Ddefnydd yr Iaith Gymraeg mewn Cynllunio'; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol roi ystyriaeth i'r Gymraeg yn eu Cynlluniau Datblygu Unedol, gan mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru a'i bod hi'n etifeddiaeth gyffredin i holl drigolion Cymru; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol gynnal arolwg o gyflwr yr iaith yn eu hardaloedd, a llunio strategaeth iaith a fydd yn ffurfio polisïau i warchod a hyrwyddo'r iaith yn eu hardaloedd; - bod y Swyddfa Gymreig yn rhoi fwy o arweiniad i'r awdurdodau cynllunio lleol, ac yn cyhoeddi canllawiau fwy manwl ar ba fath o bolisïau y dylid eu mabwysiadu er gwarchod a hyrwyddo'r iaith.

Coed estron i'n hardaloedd ni yw'r Conwydd - y pinwydd, y ffinydwydd a'r pyrwydden.

Gyrrwyd crynodeb o Ddeddf Eiddo at bob awdurdod unedol gan alw arnynt i bwyso ar y llywodraeth ganol am fwy o rym gweithredol yn eu hardaloedd ac i ystyried anghenion cymunedau wrth lunio polisïau tai.

Gellid datblygu hyn fwy fyth trwy ddefnyddio'r papurau bro nid yn unig i wyntyllu anghenion yr iaith Gymraeg yn eu hardaloedd, ond fel y gwneir mewn rhai papurau, canmol a chefnogi'r gweithredoedd sydd o fudd i'r Gymraeg.

Ni adawodd Duw ei Hun yn ddi- dyst yn ein heglwysi a'n hardaloedd.

Mae cartrefi mewn llawer o'n hardaloedd yn troi yn dai haf ac yn dai i bobl ymddeol; codir stadau mawr mewn llawer pentref ar gyfer pobl o'r tu allan. Mae ieuenctid ein gwlad yn cael eu cyflyrru i dderbyn mai gadael eu bro eu hunain i chwilio am waith yw eu tynged.

Cynghorau lleol yn cael yr hawl i roi cyfraniadau ariannol i'r Eisteddfod Genedlaethol pan gynhelid y Brifwyl yn eu hardaloedd nhw.

Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn cyfarwyddo pob Rhanbarth perthnasol i ymgyrchu dros newid iaith gweinyddiaeth fewnol yn ein hardaloedd - fel y byddwn yn symud ymlaen at sefyllfa lle bu llywodraeth leol yn yr ardaloedd Cymraeg yn cael ei weinyddi trwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddai hyn, meddant, yn sicrhau y rhyddid cyflawnaf posibl i Brotestaniaid yn y broydd lle maent yn y mwyafrif a'r un modd byddai'r Pabyddion yn mwynhau'r un rhyddid yn eu hardaloedd hwy.

Mae'r rhan fwyaf o'n pobl yn gorfod symud o'u hardaloedd i chwilio am waith.

Yn ystod y drafodaeth byrdwn cyfraniad rhai o'r aelodau oedd adrodd hanesion a dyfalu am hynt a helynt yr iaith yn eu hardaloedd eu hunain.

Cyffwrdd yr un pryd â'n calonnau ninnau i ennyn ysbryd cenhadol ynom, i'n cynysgaeddu â pharodrwydd i gynorthwyo'r gwaith mawr nid yn unig mewn gwledydd tramor, ond yn ein hardaloedd ninnau yng Nghymru, fel y bo'r gwaith yn ei gyfanrwydd yn ogoniant i'th enw, yn Iesu Grist.