Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

harddull

harddull

Tybed nad yw'r Dr Roberts wedi cymryd ei pherswadio gan fân feirniaid mai'r 'feliau' hyn ydyw coron ei harddull a bod yn rhaid iddi bupro'i holl waith â hwy?

Ac mae ei thuedd i gyfeirio wrth fynd heibio at fyrdd o feirniaid llenyddol ac ysgolheigion eraill yn ymylu ar fod, ar adegau, yn hunan barodi o'i harddull ei hun.

Nid ei harddull yw ei chryfder.

mae'r gân Rowlin Mowlin gan Texas Radio Band yn gwbl gyfarwydd - yn gyn gân sesiwn i BBC Radio Cymru maen gwbl nodweddiadol ou harddull unigryw.

Cymharol ychydig o athrawon er hynny sydd yn addasu eu dulliau a'u harddull ddysgu i gyd-fynd a chynnwys y wers.

Y mae Angharad Price, fodd bynnag, yn cyfyngu ei thrafodaeth hi i rai sydd gyfuwch a hi ei hun o ran ysgolheictod a dysg gyda'i harddull, mae gen i ofn, yn academaidd anodd a thrymlwythog o derminoleg anghyfarwydd.

Er gwaetha'i harddull y mae hi'n llenor mawr, nid o'i herwydd.

Dwi'n dal heb ddeall y teitl ond wedi i mi orfodi fy hun i gwblhau'r llyfr, hoffwn weld yr awdures yn cael ei dedfrydu i gyfnod hir o solitary confinement mewn lle y gall ddatrys ystyr y teitl a pherffeithio ei harddull ysgrifennu digrif.

Gellir dadlau bid siwr, mai cyfyngedig yw rhychwant teimladol a ffurfiol a thestunol y naill a'r llall o'r beirdd hyn, bod maint eu cynnyrch, ac amrediad eu harddull a'u profiad yn fychan.