Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

harddwch

harddwch

Trafodwch y syniad o "Long Ofod Ddaearol": mae Dyn yn ddibynnol ar yr adnoddau a'r harddwch sydd i'w cael ar y blaned hon; does gennyn ni ddim stôr ddiderfyn o'r pethau hyn.

Trafodwch y ddyletswydd foesol sydd arnom i gadw harddwch naturiol y blaned a chynnal ei hadnoddau fel y gall cenedlaethau'r dyfodol eu mwynhau a chael budd ohonynt.

Faint yw ein gofal am harddwch ein tirwedd ac yn dilyn rhesymeg Rio, y ddiwyllianau a thraddodiadau a gysylltir a'r un tiroedd?

Cododd awydd ym mysg y deallusion i amddiffyn yr etifeddiaeth o harddwch, tawelwch ac o lecynnau ysbrydoliedig.

Harddwch yn dechrau Cerdded gan Emrys Roberts.

Yn yr awdl mae un o'r delwau a geir yn Nhyddewi yn holi pererinion, ac yn gofyn a ydyw'r Cymry yn parchu eu hiaith o hyd ac yn gwerthfawrogi harddwch y wlad.

Ond prin y gallent hwy, hyd yn oed, gystadlu o ran harddwch â'r eglwysi cadeiriol, yr hen eglwysi clas (megis Llanbadarn Fawr) ac ambell eglwys blwyf, heb sôn am abatai a phriordai'r gwŷr wrth grefydd- casgliad nodedig o adeiladau gwych dros ben.

Peth goddrychol, newidiol yw eu harddwch.

HARDDWCH DIHAFAL CLOC BLODAU - Tom Owen

Gwelir ynddo, bid sicr, rai pethau sy'n gyffredin i modernismo Sbaen yn yr un blynyddoedd: ymdeimlad newydd a harddwch geiriau, hoffter at grefft gan gynnwys crefft y gynghanedd, yr un synwyrusrwydd hefyd.

Harddwch!

Mae barddoniaeth Gymraeg yn aml wedi canmol harddwch broydd arbennig.

Roedd pennaeth y meindars yn gwrthod gadael i ni ffilmio unrhyw beth y tu allan i'r gwesty, a bu'n rhaid i ni fodloni ar ambell lun o harddwch y brifddinas drwy ffenestr yr ystafell fwyta ar y llawr uchaf.

Os mai hyn ydi'ch syniad chi o rywbeth del, rhyw syniad go od o estheteg ac o werthfawrogi harddwch sydd gennych chi.

Cynghorwyr statudol y Llywodraeth ar gynnal harddwch naturiol, bywyd gwyllt a'r cyfle i fwynhau cefn gwlad Cymru a dyfroedd ei glannau.

"Ceisiwch, medd Rhigyfarch, "y ffynhonnau dyfroedd a dyrr eich syched, dyrchefwch eich llygaid i fyny, a gwelwch y ceinder a'r harddwch sydd fry.

Gwelir ei llun ar glawr un o gatalogau'r Amgueddfa, rhywbeth o harddwch gwaith gofaint Oes y Pres.

'Roedd Rhamantiaeth y beirdd hefyd yn ei ffordd yn brotest yn erbyn y pryddestau diwinyddol, gyda'u disgrifiadau o harddwch corfforol merch yn enghraifft o rywioldeb yn dechrau treiddio drwy ffug-barchusrwydd a rhagrith crefyddol y cyfnod Fictoriaidd yng Nghymru.

Fel y mae yn wybyddus erbyn hyn, paentio mewn olew y mae Gwyneth ap Tomos ac y mae ei gwaith hithau eto yn dangos harddwch tawelwch a llonyddwch.

I gael glo i'r tanau yn eu cartrefi - ac ni ellid coginio heb y rheina - yr oedd yn rhaid cloddio yn y tipiau glo a amharai ar harddwch y cwm, ac wrth gwrs yr oedd yn rhaid cludo sacheidiau adref - ar ysgwyddau'r cloddwyr neu ar ryw gerbyd olwynion, gwagen fach neu goets baban.