Y drwg yw fod y grefft hon - a fun un reddfol bron inni dros y canrifoedd - yn un mor ddieithr erbyn heddiw na wyddom sut i'w harfer.
Dywedodd Thomas Sebastian Price o Lanfyllin mewn llythyr Lladin yn 1700 fod y Gymraeg erbyn hynny wedi peidio â'i harfer oddieithr gan y werin iselradd.
Bu llawer o adeiladu, a datblygodd pentref hollol newydd yn Nhrefor, lle gynt y bu'r Hendre a'i hychydig ffermydd a'i harfer o adeiladu cychod.
Gwyddem hefyd fod y Nipon yn elynion i Gristnogaeth, ac mai eu harfer gyda drwgweithredwyr oedd eu diberfeddu.
Wrth i ni ymarfer mae'r eirfa'n gwella o hyd a daw geiriau annisgwyl iawn gerbron, geiriau sy wedi bod yng nghefn y cof am flynyddoedd efallai ond heb gael eu harfer.
Celtiaid y gelwid hwy, a'u harfer oedd ymosod ar lwythau eraill gan eu caethiwo a byw ar yr ysbail.
Ond yr hyn sy'n nodweddu iaith yw ei thuedd, bob amser, i gynrychioli meddyliau'r sawl sy'n ei harfer yn hytrach nag ail adrodd yr hyn a lefarodd person arall.
Bod pob cainc amheus y mynnir ei harfer i'w difreinio, megis y gainc heb doriad pendant i'w rhan gyntaf, a phob cainc y cytunir na ddwg traddodiad y gelfyddyd eirda drosti.
Is-bwyllgor yr Anabl: Yn ôl eu harfer yr oedd y pwyllgor hwn eto wedi bod yn hynod o weithgar fel y gwelwyd o adroddiad Nancy Lovatt.
Yn ôl eu harfer dros y blynyddoedd daeth dros ddwy fil o bobl i'r theatr eto eleni, y tro hwn i rannu atgofion John Davies - yr hen lanc canol oed a benderfynodd symud i fyw i lety wedi marw ei fam - wrth iddo werthu ei ddodrefn "o law i law% i berthnasau a chydnabod.
Sylwi fod fy menig i'n racs (yn ol eu harfer ar y creigiau!), fy nghrys T.
Fe allwn ni'r Cymry Cymraeg, bawb ohonom, fod yn euog o'r cyhuddiad hwn i'r graddau y bo ein harfer yn anghyson â'n proffes.
Ni chyfrifant hi yn ddim i gywilyddio rhagddi, ac ni chyll y gwragedd eu braint wrth ei harfer.