Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

harglwydd

harglwydd

Roedd y cyfreithiau Cymreig yn gorchymyn i weision y brenin godi naw tŷ, gan gynnwys neuadd, ystafell wely, cegin, capel, ysgubor, odyn, ystabl, bragdy a thŷ bach, ar gyfer eu harglwydd.

Clywn hefyd am y 'Galileaid' a garai ryddid, yn ôl Josephus, ac na fynnent barchu neb ond Duw fel eu Harglwydd.

Ac fel y mae pobol yr AA neu'r RAC yn eich rhybuddio am beryglon ar ffordd, felly y gallech rybuddio pobol fod yna berygl iddynt gwrdd â'i Harglwydd ar ambell ffordd, fel yr un i i Emaus, neu'r ffordd honno yr âi yr eunuch arni yn ôl i Ethiopia.

Ychwanega ei fod wedi dwyn croes ein Harglwydd Iesu Grist ar ei ysgwyddau (sef llun neu batrwm ar ei darian yn ôl pob tebyg) am dri diwrnod a thair noson, a dyma'r enghraifft gynharaf o'r syniad am Arthur yn amddiffynnydd i'r Ffydd Gristnogol.

Ymerawdwr Rhufain ar y pryd oedd Domitian, dyn didostur a ryfygai i alw ei hun Ein Harglwydd a'n Duw.

Canolbwyntia ein meddyliau ar ein Harglwydd Iesu Grist, ein Bugail Da, arloeswr a pherffeithydd ein ffydd, canys yn ei haeddiannau Ef y deisyfwn hyn i gyd.

Ninnau, wedi ein rhyddhau oddi wrth bryderon, gyda thangnefedd yn ein calonnau, yn ymddiried yn Iesu Grist ein Harglwydd, Amen.

Yr Ymgnawdoliad a'r Iawn: Er iddi hi darddu o ddadleuon athronyddol digon dyrys, amcan ymarferol oedd i gyffes yr eglwys ynghylch cyflawn ddyndod a llwyr dduwdod ei Harglwydd.

Gofynnwn hyn yn enw ein Harglwydd a'n Hachubwr,Iesu Grist, Porthwr y Miloedd.

Iaith ysgrythur sydd mewn llawer datganiad ganddo, er enghraifft: "Y Duw-Greawdwr, y Tad tragwyddol a Thad ein Harglwydd Iesu Grist yw'r Duw y mae'n rhaid i ni ei addoli.

Y mae miloedd o Gristionogion cadarn, golau a theyrngar i'w Harglwydd yng Nghymru.

Mewn un frawddeg portreadir Arthur fel amddiffynnydd y Ffydd Gristnogol trwy honni ei fod wedi dwyn delw y Forwyn Fair ar ei ysgwyddau, a'i fod wedi gwneuthur lladdfa enfawr o'r paganiaid trwy rym Ein Harglwydd Iesu Grist a'i Fam.