Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hargyhoeddiadau

hargyhoeddiadau

Bellach daeth yn bosibl, diolch i ymchwiliadau'r diweddar Emyr Gwynne Jones, Dr Geraint Bowen a Dr Geraint Gruffydd i wneud amgenach cyfiawnder ag ymdrechion yr ychydig Gatholigion a sylweddolai bwysigrwydd mynegi eu hargyhoeddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Pan nad oedd fawr ddim addysg Gymraeg yn yr ysgolion dyddiol, yr oedd yr Ysgol Sul yn dysgu miloedd i ddarllen yn ddeallus ac i fynegi eu syniadau a'u hargyhoeddiadau'n glir ac yn gryf.

Ond a'n gwaredo ni, ym myd theatr plant, rhag gwthio ein diwylliant, rhag dyrchafu ein credoau a'n hargyhoeddiadau fel y rhai gorau a'r rhai mwyaf gwaraidd, ar draul rhai eraill.

Gwþr caredig oedd gwþr Sir Gaerfyrddin; gwþr cymwynasgar, tylwythgar, teulugar, cymdogion da, boneddigion y tir; gwragedd diwyd, doeth a ffrwythlon; pobl heb ddail ar eu tafod, yn lletygar i grwydriaid, yn talu dyledioon, yn rhoi arian ar fenthyg heb wystl ond ymddiriedaeth, yn cynorthwyo'i gilydd; y bobl a fu'n dioddef gorthrwm a thrais y meistri tir a'r stiwardiaid, yn ymladdd yn erbyn anghyfiawnder, yn aberthu pob dim er mwyn egwyddor ac yn dal at eu hargyhoeddiadau hyd y carchar a'r bedd.

Un o'r pethau rhyfedd ynglyn ag ysgrifennu hanes yw y gall ysgolheigion, gwahanol iawn eu hargyhoeddiadau personol, gytuno ar fanylion, ond pan ddônt i'w cyfuno mewn panorama eang, daw gwahaniaethau sylfaenol i'r golwg.