Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hastudio

hastudio

Mae'n anhygoel fod Cyngor wedi ei arwain gan Sosialwyr yn cwyno ein bod yn gwrthwynebu rheolaeth Quangos Torïaidd ar ein system addysg, ac yn defnyddio hwn yn esgus i beidio â thrafod argymhellion y mae sir gyfagos Ceredigion yn eu hystyried yn ddigon pwysig i'w hastudio'n fanwl gan is-bwyllgor arbennig.

Bu'r ddau filwr yn eu hastudio'n hir.

Nid oedd yn gocysen bwysig mewn unrhyw gynllun; nid oedd yn 'ddylanwadol' mewn llywodraeth leol nac unrhyw bwyllgor penodiadau; nid oedd gwpwrdd ffeil o wybodaethau hwylus; nid oedd yn ddyn busnes nac yn gyfryngwr rhyngoch a phwerau y talai ichwi eu hastudio a gwrhau iddynt.

Syniai Saussure am iaith fel chwarae gwyddbwyll, lle y bo i'r darnau eu gwerth a'u swyddogaeth a lle y bo'n rhaid eu symud yn ôl rheolau arbennig; bod dwy wedd ar astudio iaith, sef y wedd syncronig, disgrifiad o gyfansoddiad iaith, ei sieniau, ei geiriau a'i gramadeg mewn cyfnod arbennig, a'r wedd ddeiacronig, y cyfnewidiadau sy'n digwydd i iaith dros gyfnod o amser; a bod rhai gwahaniaethau rhwng Langage, gallu cynhenid yr hil ddynol i gyfathrebu trwy gyfrwng arwyddion llafar confensiynol, la langue, y system ieithyddol fel y mae'n bod yn meddwl pawb sy'n defnyddio'r iaith, a la parole, arferion llafar ac ysgrifenedig y siaradwyr, yr unig wedd y gellir ei hastudio.

o'u hastudio'n fanwl gwelwyd fod popeth perthnasol i'r ddau linyn a oedd yn cael eu hasesu eleni yno.

Mae yna rai i'w hedmygu yn fwy; mae yna rai i'w parchu yn fwy; mae yna rai i'w hastudio yn llwyrach, a llawer i'w cofio yn fanylach.