Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hatal

hatal

Daeth mintai gymysg ohonynt i dueddau Caer ac ni wyddai'r Cymry druain sut yn y byd i'w hatal.

Yr oedd tôn ei feirniadaeth yn ddigon gelyniaethus i'w hatal rhag cylchredeg hyd yn oed os na theimlai'r prelad y gallai eu gwahardd yn llwyr.

Yn wir, pan awgrymwyd bod y fasnach yn rhy beryglus ac y dylid ei hatal, dywedodd Thomas Grey, ysgrifennydd cynorthwyol i'r Bwrdd Masnach, "Credaf nad 'peryglus' yw'r gair cywir.

hynny yw, pe codai anghydfod rhwng gwlad a gwlad yna disgwylid i'r ddwy ohonynt ofyn i rhyw wlad a oedd yn gyfeillgar â'r ddwy ohonynt i'w cymodi a'u hatal rhag mynd i ryfel.

Os nad oedd eu teimladau tuag at Heledd yn ddigon i'w hatal rhag ei thrin hi fel y gwnaethon nhw yn y lle cyntaf, yna rhagrith fyddai hi iddyn nhw ymddwyn fel petai canlyniad eu hamddygiad yn mennu llawer arnyn nhw nawr." "Rwyt ti'n siarad yn ysgubol iawn - bron fel petaen nhw wedi cynllunio'r peth mewn gwaed oer." "O, mi wn i; siarad yn fy nghyfer roeddwn i.

Golyga hyn y bydd yr Alltudion yn cael eu hatal rhag cystadlu yng Nghwpan Cymru.

Pa fedal fyddai fyth yn ddigon cymwys ac addas i hongian o gylch ei gwddf fel teyrnged i'w dewrder yn sefyll yn yr adwy i'n hatal ni y gwþ þ ie, y rhai cryfaf, i fod þ rhag llwyr golli ffydd a mynd ar ddisberod gyda'r genfaint foch?

Mae'n wir ddrwg gen i.' Gafaelodd yn dyner yn ei garddwrn i'w hatal rhag rhwbio.' Rydw i'n fwy pengaled na chi, mae'n amlwg.

Doedd hi ddim yn breuddwydio y byddai neb yn ceisio'u hatal.

Ni lwyddodd y gyrrwr i'w hatal rhag datgloi gêr a diffodd tan y peiriant - ac yntau'n feddw gaib yn ôl y Prif Gwnstabl a thystion eraill.