Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hatgoffa

hatgoffa

Ar ryw ystyr mae'r lluniau'n ein hatgoffa mai môr a mynydd a daear a grymoedd natur yw'r unig bethau cyson yn hyn o fyd.

Un esboniad tebygol yw fod y lliw gwyn yn ein hatgoffa o rwymynau (bandages) a'r lliw coch yn sumbol o waed.

Mi fuo'r arglwydd Gruffudd yn rhy hir yng ngharchar Degannwy..." "Mab naturiol ein Tywysog..." "O waed pur Cymreig..." "Yn byw fel gwr bonheddig ers chwe blynedd bron yng ngharchar Degannwy a Sinai'n gywely iddo!" Chwerthin amrwd wedyn nes i rywun eu hatgoffa y byddent at drugaredd yr Ymennydd Mawr a'r Gwylliaid pe rhyddheid yr arglwydd Gruffudd.

Bu'r llyfr yn foddion i'm hatgoffa o'r newydd fod rhywbeth reit drist o gwmpas gyrfa Christmas Evans.

Mae toreth yr hysbysebion am insiwrans iechyd yn eich hatgoffa nad oes cyfle cyfartal i bob corff yma.

I Gymru gaur bwlch ar y timau hyn bydd yn rhaid i Mark Hughes godi hyder y chwaraewyr, au hatgoffa nhw beth yw ennill.

Tyr ebychiad chwerw Ifan ar draws y disgrifiad breuddwydiol ac fe'n hatgoffa ni o realiti arswydus eu tynged

I'n cyndadau, fodd bynnag, roedd gosod esgid ar fwrdd yn anlwcus oherwydd fod y weithred yn eu hatgoffa o esgidiau am draed y truan oedd yn aros i'w grogi.

Cwyd y ddau dwr ar y penrhynau i'n hatgoffa fod creigiau fel dannedd draig yn barod i rwygo llongau'n grybibion.

Dynoda'r pastwn ein bod mewn lle peryglus ac fe wnâi'r chwisl ein hatgoffa y byddai arnom, o bryd i'w gilydd, angen help," meddai yn gynnar yn y gyfrol.

mae'r casgliad yn agor, wrth reswm, efor brif gân, Dolur Gwddw, sydd yn wefreiddiol - a dweud y gwir mae hi'n ein hatgoffa o ganeuon Ffa Coffi.

Byddai'n siŵr o'm hatgoffa iddo gael ei eni (yn ail o deulu o ddeg) a rhwyd ysgafn (caul) am ei ben.

Efallai na fydd neb yn cytuno, ond mae'n rhaid i ni gyfaddef fod Just Tonight yn ein hatgoffa o Catatonia i ryw raddau.

Y mae dechrau blwyddyn yn ein hatgoffa mai mynd yr ydym ni ond fod Duw'n aros.

Cafodd ei hatgoffa ei bod yn dod o deulu parchus a'i bod wedi cael addysg ddrud o safon uchel.

Nid yw Mrs George, mwy na'i gwr, yn ofergoelus, ond y mae'n ei holi ei hun weithiau 'ai rhybudd bach a gafodd ym maes awyr Toronto i'w hatgoffa fod y penglogau heb eu claddu?'

Yr oedd nifer o blacardiau yn dynodi enwau cwmnïau megis HSBC, Microsoft, Stena, BT at ati, gyda'r geiriau 'Mae'r Gymraeg yn anweledig!' Cafwyd negeseuon o gefnogaeth gan Dafydd Wigley AS AC, Elfyn Llwyd AS, ac Eurig Wyn ASE yn cefnogi'r alwad am Ddeddf Iaith newydd, a chawsom ein hatgoffa o'r sefyllfa warthus.

Yma hefyd mae Carreg Arthur sy'n ein hatgoffa am y chwedl mai carreg yn esgid y Brenin Arthur oedd y garreg fawr yma sy'n pwyso dros bum tunnell ar hugain!

Cawsom ein hatgoffa am yr ail dro yn Eisteddfod Bro Madog am ein dyled i'r gorffennol.

Cadarnheir hyn gan Enwau Unigol yr ail ran sy'n ein hatgoffa o 'Gwir yw y Gair'.

Mae'r goron yno i'n hatgoffa bob dydd mai cenedl wedi ein goresgyn ydym.

Rhaglen oedd hon i'n hatgoffa o flynyddoedd euraidd y gêm o gyfnod pan oedd Billy Meredith yn ffurfio undeb i'r pêl-droedwyr proffesiynol er mwyn sicrhau cyflog teilwng yn hytrach na'r arian hurt sy'n cael ei dalu heddiw i Beckham a'i debyg.

Yn agos at ddiwedd canrif, pan oedd safonau byw a gwaith wedi gwella tu hwnt i holl obeithion yr ymgyrchwyr cynnar, 'roedd Ieuan Wyn yn ein hatgoffa nad oes ystyr i fuddugoliaethau heddiw na llwyddiannau yfory heb gofio am frwydrau ddoe.

Mae'r dechneg yn ein hatgoffa o Van Gogh ac yn tynnu sylw at wyneb y llun, sy'n greadigaeth artiffisial, ac at rythmau pwerus y ddaear oddi tanodd.