Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hawddgar

hawddgar

Ac wedyn bydd yn lluchio grant yn awr ac yn y man (tan y penderfynith o beidio - a mae ganddo bob hawl i wneud hynny) i gadw'r defaid i droi gwellt yn wlân a chachu, a chadw gwên ar wyneb y gwladwr hawddgar.

Nid ydym wedi cael un Binney i'n dysgu i blygu yn wylaidd syn yn yr olwg ar y 'Goleuni Tragwyddol', nac un Alford i'n galw gyda 'Forward be our watchword' i adael ofn y diffydd, a gweled goreu Duw a dyn yn y dyfodol; ac ni chawsom un Newman i weddio gyda ni am arweiniad yr 'hawddgar oleuni'.

Daeth draw ataf a'i gwen hawddgar arferol yn gwneud plygiadau yn ei hwyneb.

Er iddo gadw llawer o'i gymeriad unigryw, tyfodd i fod yn berson hawddgar.

Dynes hawddgar iawn oedd Mair ac yn uchel ei pharch gan ei ffrindiau lu a'i chydnabod.

Gofyn am ysgrifennu gonest, di-dderbyn-wyneb a wnâi Saunders, ac am finiogrwydd a chaledwch yn lle'r meddalwch gwlanennaidd a hawddgar a geid fel arfer.

Felly hawdd yn golygu 'hawddgar, tirion' yw elfen gyntaf yr enw afon Honddu a rhywbeth fel 'yr afon hawddgar, ddymunol' yw'r ystyr.