Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hawen

hawen

Mewn cystadleuaeth wan ni chafodd Isaled, Cynddylan a Hawen ond pedair pryddest i'w beirniadu a phenderfynwyd mai Glanffrwd oedd wedi rhagori ar lapio'r hen gysuron o gwmpas yr iaith.

~oedd Hawen yn ceisio gwrthrychedd ar bwnc yr iaith gan feirdd a fuasai wrthi ers blynyddoedd yn teilwra ffeithiau ar gyfer gwisgo'u cyd-wladwyr â'u cysuron sicr hwy.

Gresynai Cynddylan fod cymaint o ôl syniadaeth William Owen Pughe - ar y cystadleuwyr a barnai Hawen i'r beirdd eu harwain 'i diroedd gwynfaol - rhamant disylwedd...' Diystyrwyd gwersi ieithyddiaeth gymharol yn llwyr: 'Ofnwn, pe cyfieithid rhai darnau o rai o'r pryddestau hyn, y câi y philistiaid Seisnig wledd na chawsant ei bath er ys llawer dydd.

Mae'n ddiddorol fod nifer o'r beirdd Cymraeg a farwnadodd eu plant eu hunain yn dweud eu bod yn methu canu bellach, fel petaent yn uniaethu'r plant â'u hawen (ac eto mae'u cerddi'n gwrthddweud eu honiadau!).