Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hawliai

hawliai

Hawliai barch ei chymdogaeth ac fe'i cafodd yn rhinwedd ei graslonrwydd.

Hawliai Israel fod Duw wedi'i dewis o blith holl genhedloedd y ddaear yn forwyn iddo, yn genedl etholedig.

Wrth chwarae gyda'i enw yn unol â rhyw gast geiriol a wnâi synnwyr iddo ef, hawliai Morgan Llwyd weithiau mai Llwyd gan môr ydoedd.

O dan yr ymagweddu hwn ceid cronfa o ragrith siofenistaidd a ganiatâi ryddid, os nad penrhyddid, i ddynion, ond a gollfarnai'n chwyrn a diarbed unrhyw ferch, boed honno'n briod neu beidio, a hawliai'r un rhyddid iddi'i hun, neu a syrthiai'n ysglyfaeth i ysfa rywiol dyn.

Ni hawliai Iesu, y mae'n ddiogel gennyf, unrhyw swydd neu deitl o urddas gwleidyddol neu eschatolegol iddo ei hun, ond y mae'n sicr fod llawer yn ei oes yn meddwl amdano fel un a gyflawnai'r addewid am y Meseia, fel un a fyddai'n rhyddhau ac adfer Israel.

Am ganrifoedd, hawliai'r Eglwys Geltaidd ryw radd o annibyniaeth oddi wrth Eglwys Rufain, a pharhaodd gwahaniaethau rhwng ei defodau hi a rhai'r eglwysi Rhufeinig hyd ddyfodiad y Normaniaid.

Y pwysicaf o'r rhain oedd y gwelliant a hawliai fod rhaid i 40% o'r etholwyr bleidleisio o blaid ffurfio cynulliad.

Wrth symud y trên o'r orsaf, hawliai rhai pobl wedyn roedd yr awdurdodau wedi torri cytundeb â'r pwyllgor Taflwyd y dyn tân i'r ddaear tra crynai'r gyrrwr yng nghornel y cerbyd tanwydd o dan gawod o dalpau glo, gan waedu o'i ben.

Pe hawliai Cymru o ddifri gael y Gymraeg yn iaith swyddogol gydradd â'r Saesneg nid o du'r Llywodraeth nac oddi wrth y Gwasanaeth Sifil y deuai'r gwrthwynebiad.

Yr hyn a hawliai'r Blaid i Gymru mewn gwirionedd oedd sofraniaeth, sofraniaeth yn yr ystyr fod gan y genedl fel person moesol yr hawl i benderfynu a oedd hi am ryfela yn erbyn cenhedloedd a gwledydd eraill ai peidio, a bod ganddi yr hawl ar fywydau a chydwybodau ei meibion a'i merched yn y mater hwn.

Hawliai nad oedd hi'n