Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hawlio

hawlio

Roedd - - yn teimlo y dylai'r cynhyrchydd yn y fath amgylchiadau hawlio unrhyw gostau banc a llog yn ôl.

Hawlio fod pob papur etholiad a phob ffurflen swyddogol yn ymwneud ag etholiadau lleol neu seneddol yn Gymraeg.

'Hawlio rhyddid cydwybod a rhyddid i bregethu'r efengyl oddi ar gariad ati - dyna ei waith mawr'.

Os yw hyn i'w gyflawni rhaid i'r Gadair hawlio parch yr holl aelodau a'r gymdeithas gyfan, bydd hynny yn ei dro yn caniat~ i'r person sydd ynddi eistedd yn gyfforddus ac yn eofn ynddi.

Os teimlodd haneswyr llên Cymru'r rheidrwydd i gydnabod, er yn betrus, ddylanwad y Trwbadwriaid ar y Rhieingerddi, mae'n siŵr y buasai haneswyr llên y Trwbadwriaid eu hunain yn barod i hawlio dylanwad y llên honno arnynt, petasent yn gwybod amdanynt hwy, oblegid un o ryfeddodau'r canu Trwbadwraidd ydyw belled y cyrhaeddodd ei ddylanwad a chyflymed.

Pan holwyd ef sut y gallai hawlio llefaru o blaid y miliynau mudion yn India, ei ateb oedd, "Drwy hawl gwasanaeth".

Mae'n anodd meddwl am neb a fuasai'n awyddus i hawlio'r cyfansoddiadau hyn fel ei waith personol, ond mewn oes pan oedd llên-ladrad yn rhemp, dysgodd y Meudwy drwy brofiad chwerw, mae'n rhaid, y dylai ddiogelu ei gynhyrchion, a dyma paham y ceir 'Entered at Stationer's Hall', 'All Rights Reserved' ac 'Ni ellir argraffu y cyfansoddiadau hyn heb ganiatâd yr awdur' ar bob un o'i lyfrau.

Rwy'n credu mai rhai pobl heb welyau sy'n ceisio hawlio trwy lwgrwobrwyo.

Mae ef newydd fod ym Mharis i ddweud wrth bawb ei fod yn mynd yn ôl i Gymru i hawlio ei deitl a'i ; diroedd fel Tywysog 'Ond pam ddylai'r milwyr Ffrengig hyn ymladd dros Owain, gofynnwn.

Nid hawlio y mae nad oes elfennau eraill sy'n cyfrannu tuag at yr ymdeimlad cenedlaethol ymhlith y Cymry, eithr yn hytrach mynn y diflannai yr ymdeimlad a'r ymwybod hwnnw gyda diflaniad yr iaith.

Y cyhuddiad yn erbyn Iesu o Nasareth, er hyn i gyd, oedd ei fod wedi hawlio bod yn Frenin Israel, yn Feseia.

Gosodwch dargedau bach i chi eich hun ar gyfer yr wythnosau nesaf er mwyn i chi gael hawlio gwobr bob hyn a hyn.

Er gwaethaf apÍl gan eu harweinydd, Joe Gormley, y glowyr yn hawlio cyflog o £135 am wythnos bedwar diwrnod o waith.

Fodd bynnag, buan y daethpwyd i helaethu gofynion manwl y ddeddf a hawlio fod pob defnydd cyhoeddus o'r Gymraeg i'w ochel.

Os na fedrwn ni heddiw hawlio'r un adnabyddiaeth gyfeillgar o gymeriadau'r Hen Destament, mae maniffesto taith Y Gohebydd yn crynhoi llawer o hanfodion crefft y gohebydd tramor.

Yn gymdeithasol, mae taith fel hon yn ddigon gwahanol i'r patrwm cymdeithasol arferol, gyda'r gwahoddwyr yn amal yn hawlio ein presenoldeb mewn cyfarfodydd, derbyniade ac achlysuron swyddogol.

Dewch gyda mi i gyfnod llawer nes atom, pan oedd adfywiad cenedlaethol Cymru yn hawlio Datgysylltiad yr Eglwys Wladol yn etholiad cyffredinol 1880.

Yr ydym ni sy'n Gymry, yn hawlio ein bod yn gyfrifol am wareiddiad a dulliau bywyd cymdeithasol yn ein rhan ni o Ewrop.

Am yr ail dro yn ei fywyd bu'n rhaid i Owain ap Thomas ap Rhodri adael y dasg o hawlio ei etifeddiaeth yng Nghymru heb ei gorffen.

Oni bai am y bechgyn a'r draffordd a'r bobl yn hawlio pob ffôn fe fyddai hi wedi cysylltu ag o ymhell cyn hyn.

I gyflawni'r gamp yr oedd Mr Wolff wedi hawlio tâl o $71ar ei ffurflen gostau am ddwy ddol vodoo a set o hoelion arch o sefydliad yn dwyn yr enw Dr Zombie's House of Voodoo yn New Orleans.

Gan fod y llywodraeth ganolog yn Delhi Newydd mor bell oddi wrthynt ac mor esgeulus ohonynt mae llawero'r casiaid ifainc yn cefnogi'r mudiad sy'n hawlio anibyniaeth wleidyddol i'w pobol - pobol sy'n ymwybodol iawn o'u tras a'u traddodiadau hynafol.

Mona sy bellach yn hawlio'r llwyfan ac yn meimio'r gan a gwel Tref hi drwy wydrau lledrith fel seren.

Roedd cysgod ansicrwydd yn bygwth hawlio'i wedd.

Arferai hawlio ym mlynyddoedd ei aeddfedrwydd nad oedd yn gwneud dim ond dilyn yr hen dadau Methodistaidd yr oedd cenhedlaeth ei dad wedi gwyro oddi wrth eu dysgeidiaeth.

Aeth ymhellach a hawlio y dylid darparu Beibl yn y famiaith ar gyfer y dyn cyffredin.

Yn ei lythyr heddiw i Alun Michael mae Ffred Ffransis llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Addysg yn hawlio fod hon yn foment dyngedfennol fydd yn dangos ai twyll oedd datganoli i hwyluso gweinyddu polisiau Llundain yng Nghymru ynteu a gymerir y cam cyntaf tuag at ffurfio polisiau datganoledig Cymreig.

Yn 1960 cafodd Mr a Mrs Beasley bapur dwy-ieithog yn hawlio'r dreth leol oddi wrth Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli, a Chymraeg y bil lawn cystal â'i Saesneg.

Nid yw'r Archif yn derbyn dim cyfrifoldeb tuag at y Cynhyrchydd nac unrhyw berson sydd yn hawlio trwyddo ef yn sgil unrhyw ddefnydd a wneir o'r Gwaith /Deunydd.

Maen nhw'n rhan o'r gymdeithas, nid yn rhyw fodau ar wahan sy'n hawlio gofal a maldod parhaus.

Roedd chwaraewyr Cymru, yn eu lliwiau anghyfarwydd, yn ymwybodol y byddai'r gêm brynhawn Sadwrn yn gyfle i hawlio lle yn y tîm i wynebu De Affrica ddydd Sul nesaf.

Cafodd ei ddatganiad ei groesawu a'i hawlio fel buddugolioaeth gan brotestwyr.

Daeth yn rhyw fath o ystrydeb cyn diwedd y ganrif ddiwethaf i hawlio mai'r tri phregethwr mwyaf a fagodd Cymru oedd John Elias, Williams o'r Wern a Christmas Evans, gyda'r Wesleyaid yn prysuro i ychwanegu naill ai Thomas Aubrey neu John Evans, Eglwys-bach.

'Roedd y gweithwyr yn dechrau hawlio gwell amodau gwaith, ac 'roedd y gyfundrefn addysg yn gwella.

Y mae'n synied am bechod fel petai wedi ei ragarfaethu, ac y mae'r ateb a gynigir yn ymddangos yn ddewis arwynebol o hawdd o'i gymharu â'r ufudd-dod llwyr y mae Duw yn ei hawlio.

Oddi mewn, er bod sawl ystafell yn yr adeilad y neuadd enfawr sy'n hawlio'r sylw.

Llwyddodd Sara Maredydd, merch ddwy ar bymtheg oed o Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi, Machynlleth i greu cymeriad oedd yn hawlio ein dicter a'n cydymdeimlad ac oedd yn corddi ein hemosiwn.

Gormod fyddai hawlio i bob un o awduron plant sir Aberteifi ddechrau ar ei waith oherwydd ysbrydiaeth Plas y Cilgwyn.

Yn gwrtais ond yn gryno, bu'n rhaid i mi ddweud wrtho bod clywed am dîm Lloegr wedi fy atgoffa o rywbeth fyddai'n hawlio fy sylw.

Mae'r gwaith hwn wedi hawlio llawer corff, ac wedi anafu llawer mwy.

Mae pawb wrthi yn datgan ei faniffesto yn barod i hawlio ei le neu ei lle yn y Gymru newydd.

Cysgu roedd ef mewn ogof rywle yn Nyfed, ac fe ddeuai'n ôl ryw ddiwrnod i achub ei bobl pan fyddai ei angen, ac i hawlio ei etifeddiaeth fel gwir Dywysog Cymru.

Ymwybod ag argyfwng y gymdeithas sy'n hawlio gweithredu, yn fwy na damcaniaethu.

Maen nhw'n dweud fod darllen ffurflenni hawlio costau i drwsio'r llanast ar ôl damweiniau car yn beth difyr tu hwnt a bod digon o ddychymyg gan rai o'r hawlwyr - sydd byth ar fai wrth gwrs - i ennill y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith yn y Genedlaethol.

Fe ddichon nad 'ailddwyfoli' yw'r gair mwyaf priodol i ddisgrifio'r dehongliad newydd ac amwys a gynigir yn y ddau bennill a ddyfynnwyd: erys Iesu'n ddyn, eithr dyn â photensial ynddo i 'hawlio rhyddid enaid o'r cnawd a'i ddyrys wead', i godi uwchlaw 'caethiwed drom' ystyriaethau bydol.

Dim ond wedi cael y statws hwn y bydd y Gymraeg yn gallu hawlio grantiau allweddol oddi wrth Ewrop.

Yn achos y cyrff cyhoeddus hyn, ystyrir mai'r sefydliadau unigol (sef y penaethiaid a'r byrddau rheoli) yw'r "cyhoedd" sydd yn medru hawlio ymateb yn eu dewis iaith, ar ran y staff a'r myfyrwyr unigol neu'r disgyblion a'u rhieni.

Nid dyna a wneir, ond hawlio ystyriaeth i'r pregethau print fd dosbarth o lyfrau ymhlith eu llyfrau eraill.

Geirie Carwyn, wrth gael ei holi ar ôl y gêm, oedd y rhai a ddangose ei 'agwedde' ore--'Mae paratoi yn hawlio agwedd meddwl bositif, ac fe benderfynon ni y bydden ni'n dal sgrym Caerdydd, doed a ddelo.

Ni thybiodd neb fod y plant yn grefyddol, er eu bod wedi mynychu digon o gyfarfodydd y Capel i hawlio braint saint yr Hen Destament i alw unrhyw un a bechai'n eu herbyn yn gythraul ac yn ddiawl hefyd.