Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

haws

haws

Sugnwyd yr hyder o chwarae'r tîm cartre a go brin y caiff golwr Notts County, Darren Ward, noson haws.

all neb wadu, er bod yr ordeinio'n hollol anorfod, eto perigl yr ordeinio, perigl mynd yn gyfundeb ar wahan, ydy ei bod hi/ n haws llithro oddi wrth yr hen Erthyglau, yr hen Homiliau, rhoi llai o bwys arnyn-nhw, cymryd haearn y ffrwyn rhwng ein dannedd, penderfynu pynciau credo heb gadw mewn cof mai etifeddiath ydy'r Ffydd, ac mai cadw'r ffydd, traddodi, ydy swydd pregethwr, nid ymresymu'n rhydd.

Un sylw ar gyfer yr academyddion cyn symud ymlaen - y mae pwysigrwydd neilltuol i lên gwerin cyfoes am ei fod yn cael ei astudio yng nghyd-destun y gymdeithas a'i creodd, ac felly yn ei gwneud hi'n haws i ddarganfod amcan neu bwrpas y stori neu'r gred - a thrwy hynny ddeall rhyw gymaint am ein cymdeithas a ni'n hunain ac am rôl llên gwerin drwy'r oesoedd.

Mae'n llawer haws gwneud ffrindiau.

Brefodd y llall naw gwaith a holltodd y graig nes ei gwneud yn haws iddo ef gludo'r llwyth.

Haws oedd goddef pangfeydd newyn na sūn y pryfetach a redai dros wendid ei gorff.

Os yw'n haws i rai nesau at oes Llywelyn Ein Llyw Olaf trwy ddarllen nofel Marion Eames na llyfr hanes Beverley Smith, yna boed felly, ac efallai y bydd blas y naill yn codi archwaeth at y llall.

Haws gennyf gredu mai'r hyn a ddigwyddodd oedd impio'r blaguryn newydd ar yr hen foncyff.

Mae hi'n haws pregethu ar bwnc yr iaith yn gyhoeddus nag yn y cartra.

Cofiwch, mae'n haws hel a didol defaid ar dir glân fel hyn.

I sillafu'n gywir, mae'n bwysig gweld y gair yn ogystal â'i glywed; a hwyrach bod plant sy wedi cael eu codi o'r crud ar luniau'r teledu yn ei chael yn haws i ddarllen lluniau na darllen geiriau.

Efallai mai ymgais i ymbellhau oddi wrth ei phrofiad oedd hynny, ond gallwn feddwl hefyd ei bod yn haws o lawer iddi ddangos dyn ifanc yn mynd i'r coleg ac yna i weithio fel athro nag ydoedd i ddangos merch yn gwneud hynny.

Fel yn y byd llyfrau, mae hi'n rhatach ac yn haws marchnata o gwmpas y ddwy Eisteddfod yn yr ha', a'r Nadolig yn y gaea'.

O leiaf, byddai problem pellter yn llai, a chyda'r adeilad hefyd yn llai, byddai'r dasg o'i dwymo gymaint a hynny'n haws.

Heb arboeni am 'gywirdeb' a 'heresi' yr athrawiaethau mewn dialog (neu, yn achos Llyfr y Tri Aderyn, trialog) a llythyr a cherdd, y mae'n gymaint haws astudio nid yn unig yr hyn a ddywedir ond hefyd yr awen honno a gais yr hyn sydd y tu cefn a'r tu hwnt i'r cyfryw athrawiaethau, gan adnabod a gwerthfawrogi eto ac eto ac eto ymdrech y dychymyg dynol i herio ein maith maith anwybod.

Haws o'r hanner oddi yno fydd iddo bicio i gefnogi tîm rygbi Cymru a thîm criced Morgannwg.

Y mae'r gymhareb hon yn osgoi'r anhawster o benderfynu beth yw'r cyfalaf, ac efallai'n ei gwneud hi'n haws i gymharu un busnes â'r llall.

Mae'r drych cyntaf, yr un sy'n casglu'r goleuni, yn gallu bod ar waelod y telesgop ac felly'n haws ei gynnal o'r cefn.

Mae wedi bod ar gael yn Saesneg ac mae naw o bob deg myfyriwr yn dweud bod y safle yn gwneud adolygu yn haws.

Fe fyddai taro ar batrwm, ar thema, yn gwneud y chwynnu yn yr ystafell olygu gymaint yn haws i'w stumogi.

Ond Ysgol Eglwys o'dd y ddwy, ac mi ro'dd mam yn nabod sgwlyn Llangoedmor, ac oblegid hynny, rodd hi'n haws ganddo faddau i mam a minnau am y mynych ddyddiau a gollwn o'i ysgol.

Dyw sgorio ceisie ddim yn haws i Gymru chwaith.

Anodd oedd troi tuag adref ond roedd yr addewid am sglodion yn y Borth yn ei gwneud yn haws.

Mae yna ddatblygiadau pendant sy'n ei gwneud hi'n haws mesur nifer o nodweddion mewn anifeiliaid fferm.

Ein Dr Redwood annwyl ni: sws- iddo-bob-amser; y Blwbyrd cu, cyfeillgar (llawn hwyl a sbri a thynnu coes) a'i newydd nyth yng Ngwydir Haws (a Weilz).

Derbynnir ymgeiswyr yn aelodau drwy arholiad sydd bum gwaith yn haws nag arholiad isaf Prifysgol Cymru'. Achosodd ei sylwadau rwyg enfawr rhwng y Brifysgol a'r Orsedd.

Haws trafod bwthyn na chastell.

Cymaint haws oedd ganddi weini trugaredd a thosturi efo dwylo a chusan; gwisgo a dadwisgo, golchi a bwydo, trwsio a smwddio, anwylo a chribo, cysuro teuluoedd 'euog' a dwrdio ambell un esgeulus.

Yn ôl Rhodri Morgan mi roedd hyn yn anarferol ac yn anffodus" ac nad oedd yn gwneud y gwaith o ddelio â"u cais yn ddim haws.

Yn wir, mae'n haws cynhyrchu laserau pwerus iawn ar ffurf ffibr nag mewn crisial gan eu bod yn fain ac yn hawdd eu hoeri.

Byddai rhywun yn ei chael rywfaint yn haws maddau y pethau hyn hyn pe byddai Henry wedi profi ei hun yn dipyn mwy o wr gwyrthiau ers ei ddyfodiad i'n gwlad.

Y drafferth yw ei bod hi'n haws o lawer i gynulleidfa dderbyn alegori yn hytrach na symbol neu fyth.

Dichon nad ystyriodd dwsinau o bregethwyr ei bod hi'n werth printio geiriau a oedd eisoes wedi cyrraedd dustiau eu gwnndawyr mewn ffordd haws o lawer.

Roedd hi'n haws maddau i'r rhai a fu'n Frenhinwyr pybyr erioed am geisio adennill y wlad i Charles Stuart nag i'r gwrthgilwyr oedd yn barod i ymuno a'u gelynion!

Mae llawer o bobl yn ei chael hi'n haws colli pwysau gyda chefnogaeth pobl debyg iddyn nhw eu hunain.

Nid oherwydd ei bod yn haws crafu'r pridd sydd eisoes wedi'i droi neu ei balu y dewisir lleoliad o'r fath ond oherwydd nad oes drywydd ar bridd felly ac na all gelyn sy'n dibynnu ar ei ffroen ddilyn trywydd o'r ganolfan i'r llecyn magu.

Wedi'r cyfan, y mae ffyrdd haws o ennill eich tamaid, onid oes?

Anffurfir y gymdeithas leol gan y biwrocratiaid fel y treisir y gymdeithas genedlaethol ganddynt, canys fel hyn y mae pobl yn haws eu trin.

I'r pwrpas hwn byddir yn crynhoi elfennau o'r ymchwil gwreiddiol, ei berthnasu i'r sefyllfa ddosbarth trwy gyfrwng y tasgau a awgrymir, a'i gyflwyno'n dameidiau man haws eu treulio, gydag awgrymiadau am drafodaethau a thasgau ymchwiliol yn y dosbarth yn dod rhyngddynt.

Mantais trefniant o'r fath yw hybu cydweithrediad, ond y berygl amlwg yw ei bod yn haws cau un 'safle' o ysgol nac i gau ysgol gyfan.

Ac yn llawer haws eu godro.

Ond nid oeddynt damaid haws â chwyno.

Mae'r syniad bod ffontiau sans-seriff yn haws i'w darllen oherwydd eu bod yn 'symlach' yn gyfeiliornus.

Ni allwn fy mherswadio fy hun fod gennyf ferch ac wyres, a deuthum i'r casgliad y byddai'n haws cymryd arnaf mai John ei hun oeddwn i.

Tueddwn ymhyfrydu yn hytrach yn y ffaith fod datblygiadau technolegol wedi gwneud popeth gymaint yn haws na chynt.

Y mae'n llawer haws, er enghraifft, gyflwyno newidiadau brys mewn polisi%au ariannol nag mewn polisi%au cyllidol.

Ac yn hytrach na beirniadu Cymdeithas yr Iaith yn agored, roedd yn haws datgan rhyw bethau ysgubol fel hyn gan gymryd arnynt eu bod yn cymryd agwedd bositif.

Y dewis cyntaf sy'n wynebu pob dysgwr yw pa fath o gwrs mae am ei ddilyn ac o hynny ymlaen mae'n haws cynghori.

Felly, yn ogystal â'r ffaith bod y lluniau yn 'ddyfnach' na lluniau a dynnwyd â phlatiau ffotograffig, gellir chwarae gyda nhw ar y cyfrifiadur a chanolbwyntio'n haws ar wahanol rychwantau disgleirdeb yn y llun.

Trown ato ym mhopeth ac, er gwahaniaethau diwinyddol, ffeindiais hi'n haws i weithio gydag ef na neb o genhadon y Gwastadedd.

Gellid gwneud mwclis o'r aeron a'i osod am yddfau gwartheg er mwyn iddynt eni eu lloi yn haws.

Mae'r Adran o'r farn y dylid creu strwythur cyllido sy'n ei gwneud yn haws iddynt gymharu sawl cais am yr un project, er mwyn dod ag elfen gystadleuol i'r broses.

Argymhellir cyfuno ac ehangu'r rhain fel y byddant yn haws eu defnyddio.

'Roedd y gwaith yn dipyn haws i'w wneud yn Sgotland nag yng Nghymru.

'Nac ydi siŵr, ond mi fydda i'n taflu geiriau mawr o gwmpas y lle cyn symud reit gyflym at y pwynt nesa.' Dros y blynyddoedd daeth Rhian i dderbyn bod y ffaith mai merch oedd hi'n gwneud yn haws ei brifo gan gwestiwn mor ddwys â hwn.

Mi fydda fo'n haws i mi wneud ond rhaid i mi beidio.

Yr adeg hon hefyd dechreuodd Gaunt ar y gwaith o suddo pwll wrth ochr y ffordd fawr i fynd at wythi%en y Gwscwm a chodi clawdd tua deg troedfedd o uchder a deunaw troedfedd o led, ar y gwaelod, i gario'r glo yn haws i'r harbwr.

Rhaid chwilio am ddull haws o farchnata wrth imi heneiddio!

Ni welaf fod rhestr gweithgareddau'r Uned Rhaglenni Cyffredinol heddiw yn cyffwrdd ag unrhyw faes nad oedd yn cael sylw llawn chwarter canrif yn ôl Y mae yna un neu ddau o ddatblygiadau sy'n gwneud bywyd yn haws i'r cynhyrchydd efallai.

Gallasai fod wedi bod yn haws i Abertawe.

Yn hytrach nag ymlacio i dderbyn yr awdur yn ei holl gymhlethdod, mae hi'n haws gwneud i bob cymeriad gyfateb i athroniaeth arbennig.

Ond mewn gwledydd eraill, lle nad oedd y brenin neu'r llywodraethwr wedi llwyddo lawn cystal i orfodi'i ewyllys ei hun ar draul hawliau'r Eglwys, byddai'n demtasiwn o'r mwyaf iddo fabwysiadu dysgeidiaethau hereticaidd a roddai iddo gyfoeth ac awdurdod ac a fyddai'n haws eu hieuo wrth agwedd ffafriol ei ddeiliaid tuag at iaith a chenedlaetholdeb.

Bydd hyn yn golygu, er enghraifft, ei bod hi'n llawer haws i blant ysgol ddod o hyd i ddefnyddiau Cymraeg wrth chwilio am wybodaeth.

Ni ddychwelwyd ar hyd yr un llwybr yn union â'r un a ddaeth â hwy i'r pentre'n y lle cynta, ond yn hytrach, canfyddwyd llwybyr lletach lle roedd hi'n haws rowlio'r casgenni.

Byddai hynny'n gwneud pethau'n llawer haws i ni." "Ie," atebodd yr asyn, "ond mae angen llawer o arian i brynu mwy o anifeiliaid.

Efallai y bydd hynny'n haws iddynt ar ôl darllen yr Atodiadau i'r gwaith, ar y diagram Diamwnt, sy'n fap o'r seici, ac yn dilyn arferiad cyfrinwyr yn Nhibet, India a Tsieina.

Gwadu hynny a wnaeth hi gan ychwanegu y byddai'n derbyn ei harian dipyn yn haws o hynny ymlaen - roedd yn mynd i fod yn butain broffesiynol.

mae'r tractor wedi ei gwneud hi'n haws i'r ffermwr, ond mae wedi chwalu y fferm deuluol.

Haws oedd goddef y newyn ar ei orwedd nag ar ei sefyll.

Pa faint haws fyddai o a chael llond bws o Gymry tebyg iddo fo ei hun ar ei wynt?

Drwy archwilio'r ffyrdd y bydd dŵr yn cyrraedd sianel yr afon, gall gwyddonwyr (a elwir yn hydrolegwyr) ei gwenud hi'n haws i bobl fyw mewn cytgord ag afon.

A syllu, syllu ar eiria'r daflen, geiria caled ar y gwyn llyfn, fel tasa dal i sbio'n mynd i ddileu'r geiriau neu yn newid yr enw i enw rywun arall y medran ni yn haws ei sbario.

Os yw hynny yn wir, haws credu mai a gynorthwyo gyda'r gwaith hwnnw a wnaeth y Dr John Davies.

Mae'r broses o chwilio am artistiaid newydd wedi dod yn haws wrth i'r cwmni fagu enw.

Serch hynny mae'n wir bod ffontiau sans-seriff megis Helvetica neu Geneva yn haws i'w gweld ar sgrîn y cyfrifiadur, felly mae'n syniad sgrifennu'r testun yn Helvetica neu Geneva ar y sgrîn, ac yna, os oes gennych lawer o destun, ei newid i rywbeth fel Times ar y diwedd.

Mae'n haws pan fegir y plant yn yr un diwylliant.

'Mae hi am fod yn llaw haws nag oedden ni'n feddwl,' meddai Gwyn yn sydyn.

Serch hynny, nid yw gwybod hyn yn ei gwneud yn haws dygymod ag annheyrngarwch llawer o Gymry tuag at eu cenedl.

Y cytundeb canlynol yw cnewyllyn ein strategaeth ar gyfer sicrhau y bydd cyngor annibynnol yn haws ei gael:-

Ond maddeued imi am feddwl hynny; ond does bosib nad oes yna ffordd haws i rywun gyda chymaint o addysg ddweud hynna.

'Ma' pawb yn brysur', meddai Gwyn, 'ma'n haws gin i gredu fod y copi yn dal i orwadd ar ei desg.

dy fyw', a haws derbyn hyn na damcaniaeth y golygydd mai Crist yw.

Nawr gyda'r hawl undebol i ddefnyddio criwiau lleol, mae'n llawer haws ffilmio mewn gwledydd tramor.

"Mae'n haws siarad Cymraeg!" Roedd ei mam (a fu'n eisteddfodreg fawr yn ei dydd) dan yr argraff eu bod yn treulio'u Sadyrnau yn cerdded o un steddfod i'r llall, ac ni chymerodd arni ei goleuo.

Abraham yn ei hen ddyddiau, yn planu coed, nid blodau....., Abraham yn planu coed, ac yn eu gadael i ofal Duw.' Dyna bennau'r pregeth: pregeth haws ei llunio yn awyrgylch nawdegau'r ganrif ddiwethaf nag yn nawdegau'r ganrif hon.

Cyfrwng i fynegi teimladau personol yw barddoniaeth i ni heddiw, ac felly gallwn ymateb yn haws o lawer i gerdd fel hon nag i'r cerddi mawl confensiynol.

Ond dydi gwybod hyn ddim yn ei gwneud hi'n ddim haws i reoli'n chwant am y bwydydd 'afiach'.

Haws dweud na gwneud, mi wn, ond o lwyddo i ffrwyno yna prin yw dewisiadau ymosodol Lloegr.