Mae eu hawydd i ddarganfod pethau drostynt eu hunain wedi eu harwain i beryglon mawr - ond weithiau bu'n gyfrwng datrys dirgelwch hefyd.
Ei hawydd hi i dreulio'r Nadolig efo'i theulu oedd achos y ffrae ond gwelai rŵan na allai fwynhau'r ŵyl heb ei gŵr.
Gallwn arogli ei ffresni a'i hawydd i fyw.
Mae'n wir i amryw un, o Saunders Lewis i Hywel Gwynfryn (yn Melltith ar y Nyth), ailgyflwyno'r chwedlau yn y Mabinogi mewn modd sy'n denu chwilfrydedd meddylwyr Freudaidd neu Jungaidd, gyda'u diddordeb yn y wedd rywiol i bethau, a'r amwysedd a'r diffyd rhesymolder sydd yn y chwedlau ym mherthynas pobl neu greaduriaid â'i gilydd, a'r symud sydd rhwng y byd greddfol, anifeilaidd, a byd dynion a'u defodau a'u hawydd i roi trefn ar bethau.
Poenusach i mi yw darllen llyfrau nad yw eu cymeriadau byth yn gwisgo nac yn bwyta Y gwir amdani yw bod brethynnau a thorthau ynddynt eu hunain bwysig o fyw pawb, ac at hynny, ac yn bwysicach na hynny, mewn stori%au y maent yn arwyddion - ond yn wir yn symbolau - o gyraeddiadau pobl, eu hawydd, eu hofnau, eu huchelgais.
'Roedd y cwmniau eisoes wedi dangos eu hawydd am wrthdaro â'r undebau - ond cryfhawyd eu rhyfelgarwch yn fwy byth gan Buxton.
Mae Mair Evans yn grefftus yn ei phortread o Leni fel merch hunanol a didostur yn ei hawydd i ddod o hyd i'r gwirionedd ond mae hyn yn ennyn diddordeb y darllenwr i weld a ydy hi'n llwyddo ai peidio.
Fe allwn ddychmygu cymaint mwy yw eu hawydd i warchod yr eliffant a fu yn sumbol mor gryf o drachwant dyn yn treisio'r bywyd gwyllt.
Yr unig beth Cymreig am HYDER yw eu dwyieithrwydd arwynebol a'u hawydd i wneud cymaint a phosib o elw allan o'u cwsmeriaid yng Nghymru.