Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hebddo

hebddo

Gallai wneud y tro'n iawn hebddo.

Ar y llaw arall, gallai ddadlau na ddylai Undodwr gwerth ei halen fod hebddo, nid yn unig oherwydd ei waith personol, ond am ei fod yn ddolen gydiol rhwng aelodau gwasgaredig a llinyn bywyd y mudiad.

Aeth yr awyren hebddo ac wedi ail-bacio'i fagiau roedd ar ei ffordd i dde-ddwyrain Twrci.

Byddai'n siŵr o fod o'i gof yn meddwl am y tri ohonynt ar siwrnai mor bell hebddo fo.

Ar ôl cael cymaint o brobleme sgoAo roedd Cymru wedi rhoi'r bêl yn y rhwyd bedair gwaith yn y gêm gynta hebddo, a hynny yn erbyn Lloegr.

Y tro hwn gadawodd Kath a'r teulu ond aeth pethau o chwith iddo wrth i Mrs Mac adael am Tenerife hebddo.

Cronnai pob iaith a phob cenedl brofiad unigryw y byddai'r byd yn dlotach hebddo.

Roedd Carol wedi bod yn gyrru ar hyd y draffordd am dri chwarter awr cyn iddi gyfaddef wrthi'i hun mai Emyr oedd yn iawn ac mai ffolineb oedd ymgymryd â'r fath siwrnai hebddo fo.

Er hynny i gyd, 'rydw i'n fodlon cyfaddef y gall chwerthin fod yn llesol ac y byddai'n o druenus arnom hebddo.

Un dawedog oedd hi, merch o'r bryniau yn deall dim ar anesmwythyd diddiwedd y môr, wedi taro ar longwr a'i briodi wrth ddod i lan y môr ar wyliau, ac wedi gorfod byw hebddo am y rhan fwyaf o'i bywyd priodasol.

Ac yntau'n ysgolhaig o'r radd flaenaf, yn ieithydd penigamp ac yn arbenigwr ar Gerdd Dafod, ni allai'r Brifwyl wneud hebddo.

Gan fod peth amheuaeth ynglŷn â'r lle'r oedd i ddod i fyny ar y bws bu'n rhaid oedi tipyn cyn cychwyn hebddo yn y diwedd.

Ymddangosai fel pe byddain mynd allan o'i ffordd yr wythnosau cyn y gêm i danseilio hyder Arwel Thomas gan dynnun llwyr y tir oddi tan ei draed trwy gychwyn y gêm hebddo ddydd Sul.

Ni allai ei gweld yn codi ei phac fel rhai gwragedd a mynd i hwylio gyda'i gŵr yn hytrach na byw hebddo, a gadael i'r gwynt chwythu ei gwallt a hithau i bob cyfeiriad.

Ebe fe yn y man: "Dyna ni, Der, ni sy'n y ffrynt lein ran." Y mae'r ffrynt lein honno heddiw yn deneuach o lawer hebddo ef.

Roedd Idris druan wedi digio, ac ystyriodd aros yno a gadael i'r bêl fynd ymlaen hebddo.

Gwyddai Carol, yr eiliad honno, na fedrai wynebu gweddill y siwrnai heb Emyr, heb sôn am dreulio'r Nadolig a'i phenblwydd hebddo.

"Ma' meddyginiaeth yn 'i ddail, mi wyddost," rhybuddiodd, "a fedrwn ni ddim fforddio bod hebddo.