Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hebddynt

hebddynt

Hebddynt hwy, ni byddai na phobl na chenedl Gymreig.

Ond y mae ardaloedd sydd hebddynt hyd yn oed yn awr.

Hebddynt, ni fyddai Dawnswyr Nantgarw.

Mae'r stori'n gyfan hebddynt.

Cyfansoddodd T.Gwyn Jones (Tregarth) gân leddf ar y geiriau, "Mae'r bechgyn wedi mynd i ffwrdd, Mae'n ddistaw hebddynt wrth y bwrdd..." a chenid hi gyda dwyster yn yr Undeb yn fynych.

Y broses allblygol; rhannu doniau â chefn gwlad; adlewyrchu'r goludoedd a fuasai'n hanfod ei gyff ei hun ac a ddangosai y 'mawredd a chymeriad' a feithrinai ' o gadw tŷ gwedi y tad': y nodweddion allblygol hynny a roddai ystyr i fywyd yr uchelwr; hebddynt ni allai ei gyfiawnhau ei hun yng ngolwg ei geraint, ei gymdogaeth, na'r wladwriaeth a roesai iddo wisg gydnabyddedig ei statws gweinyddol.

Ni fyddai ganddi'r un llwyfan hebddynt, mae hynny'n sicr.

Hebddynt hwy buasai'r sefyllfa Gymreig yn fwy afiach nag y bu, yn wleidyddol a chymdeithasol yn ogystal â chrefyddol.

Os yw'n credu bod teulu a chymdogaeth yn sefydliadau sy'n gymorth i bobl gael bywyd helaethach nag a gaent hebddynt, ceisia'r gwleidydd sicrhau amodau sy'n help i'w cynnal a'u cryfhau.