Yn wir i chi, mae llawer o'r rhain yn fwy o beryg ar y lôn na'r plant maen nhw'n eu hebrwng ar draws y ffordd.
Wir, roedd sawl un yn arfer taro draw wedi nos, gan esgus mynd i weld 'i mam, ac yn ddigon parod i Luned 'i hebrwng e at glwyd yr ardd cyn mynd adre.
Caiff y tad ei hebrwng o'r fan gan nifer o berthnasau a ffrindiau.
Parhaodd y terfysg am funudau nes cael yr heddlu i'n hebrwng ni allan.
Cyfarfu ynadon y dref i drefnu iddynt hebrwng y milwyr drwy gydol y dydd; penderfynasant ymhellach gau tafarnau yng nghyffiniau'r orsaf rheilffordd am ddau o'r gloch y prynhawn, a'r gweddill yn ardaloedd eraill y dref am naw o'r gloch y nos.
Cawsai fore wrth ei fodd a dod o hyd i hen ffrindiau a welsai'n dda wedyn i'w hebrwng i'r fan honno, hanner y ffordd tua thre.
Bron yn ddiarwybod iddo'i hun yr oedd yn hebrwng y ferch adref, a phan sylweddolodd beth yr oedd yn ei wneud profodd don o letchwithdod yn dod drosto, yn cael ei dilyn gan don gryfach o hunanbwysigrwydd.
Un hwyrnos, pan oedd Owen Owens yn dod i derfyn yr un stori, daeth fy mam a Miss Aster i mewn i'r gegin, a bu distawrwydd parchus tra gofynnodd fy mam i mi a awn i hebrwng Miss Aster adref, a dod 'nôl â rhyw waith gwnio roedd ei angen arnom drannoeth.
Yna, trodd at y chwilod duon oedd yn aros ar y lan a mynnodd yn ffroenuchel eu bod yn eu hebrwng at y pennaeth.
Lischana Fy nhad a'm difethodd gyntaf - gwneud imi gymryd yn ganiataol y buasai rhywun i ddisgwyl amdanaf ac i'm hebrwng adref ym mhen draw pob taith hir ar draws y mynyddoedd: o Oerddrws i Islaw'r dref, o Lanbedr yn Ardudwy i Lanelltyd, o Gerrigydrudion i'r Ganllwyd o Gapel Curig i Groesor.
Roedden ni'n cael ein hebrwng gan jîps ac roedd yna ddynion arfog o'n cwmpas wrth inni gerdded i mewn i bencadlys y PSB.
Yna daeth Margaret Thatcher ataf a dywedais wrthi wrth ei hebrwng tuag at y neuadd orlawn beth oedd trefn y noson.
Digwyddodd daro ar Ali y bore hwnnw ym marchnad Casnewydd pan ofynnodd Ali iddo hebrwng y cig i Heol Grafton a'i adael yn y gegin.
Gan fod ganddi docynnau awyren, a chan ein bod ninnau'n gadael ar y dydd Iau, gwnaethpwyd trefniadau i ni gasglu Siwsan a'r plant o'u cartref yn gynnar yn y bore a'u hebrwng yn ôl i Gymru.