Daeth tro Hector.
Dridiau cyn iddo gychwyn derbyniodd Hector lythyr, rhyw brofiad anghyffredin yn ei hanes llwm.
Edrychodd yr athro'n amheus arno, er i Hector egluro'n eiddgar wrtho ei fod wedi astudio'r pwnc yn yr ysgol, ond heb grybwyll na bu ei lwyddiant, a dweud y lleiaf, yn syfrdanol.
Gartref y noson honno dechreuodd Hector feddwl am Mrs Paton Jones.
Ceisiodd Hector groesawu brwdfrydedd y gwynt llym, gan obeithio magu lliw haul, neu, o leiaf, liw tywydd ar ei groen tyner.
Mi ddywedaf wrthych toc beth oedd penderfyniad Hector.
Ymhell cyn dechrau'i wyliau dechreuasai Hector gyfrif y dyddiau hyd y cychwyn ar ei antur fawr, a chael hynny'n orchwyl maith - hyd yr ychydig ddyddiau olaf.
Dyma'r tro cyntaf i Hector aros mewn gwesty, ond yr oedd yn benderfynol o fod yn hyderus ac yn siŵr o'i bethau.
Cilwenodd y dosbarth, er i'r ferch a gynorthwywyd gan Hector ymgadw rhag dangos ei gwerthfawrogiad o ergyd yr athro.
Chware teg i'r cyfarwyddwr, yr oedd yn athro da, a llwyddodd i ennyn diddordeb Hector yn y pwnc ei hunan yn hytrach nag yn y gobaith am unrhyw ddyrchafiad nac ennill trwy ei wybodaeth newydd.
Rhoddodd Hector yr holl drefniadau yn nwylo cwmni teithio.
Ni wyddai Hector druan hyn, ac onibai am archeb anferth Mrs Paton Jones a'i llythyr at y goruchwyliwr yn canmol yn frwd chwaeth a help gwerthfawr 'eich Mr Pennant' ni byddai'r stori hon gennyf i'w chroniclo, gan na chafodd Hector glywed gair am y llythyr.
'Os ydych chi'n cymryd cymaint o ofal ac o amser gyda phawb a chyda fi 'dych chi ddim yn medru gwasanaethu llawer o gwsmeriaid mewn diwrnod,' meddai, a hynny'n hollol wir - mor wir fel y sylwasai'r goruchwyliwr ar hynny a phenderfynu gwahodd Hector i chwilio am waith gyda rhywun arall.
Fe'i trodd Hector yn ffranciau Ffrengig, a theimlo'n eithaf gwalch wrth wthio'r arian papur i'w waled at hynny a oedd yno eisoes.
Wrth deithio i lawr yn y tren i Lundain gobeithiai Hector fod ei gyd- deithwyr yn canfod arno arwyddion teithiwr profiadol, ac yntau wedi gosod label 'PARIS' yn amlwg ar ei fag.
Yr oedd y drewdod yn ormod i Hector.
'Mae'n ddrwg gen i,' ebe Hector, "Rown i'n meddwl.'
Aeth Hector heb ei ginio y diwrnod hwnnw er mwyn carlamu i'r banc a'r siec - a phrofi siom fod y clerc yno mor ddifater yn derbyn yr arian.
Ymdrechodd Hector i'w argyhoeddi'i hun mai dyma beth oedd Bywyd.
Ni waeth beth oedd camgymeriadau Hector ar ei wyliau bu'n ddigon doeth i deithio'n ysgafn, gyda'r canlyniad iddo ymwadu a thacsi, a cherdded yn heini o'r orsaf, a'i fag yn ei law, i'r gwesty.
'A ble wyt ti'n mynd, Hector?'
'D'acc,' ebe Hector yn ddifater.
GM Ashton - Beth a ddaw o Hector?
Dechreuodd fwrw, a phenderfynodd Hector nad oedd unrhyw wrhydri mewn gwlychu.
Bellach yr oedd Hector ar goll.
Daeth ac aeth y tren a oedd yn anghysurus o lawn, er annifyrrwch i Hector a fethodd a chael sedd gyfleus yn nesaf at y ffenestr eang, er iddo gael cip siomedig ar berllannau Caint.
Wedi dychwelyd i'w lety llwm y noson honno y buasai yn nhŷ braf Mrs Paton Jones teimlai Hector dipyn yn fwy hyderus a phwysig.
A phan gafodd yr athro achlysur i longyfarch Hector ar ateb i ryw bwnc bach nid oedd terfynau i lawenydd y disgybl newydd, a phan ofynnodd un o'r merched yn y dosbarth i Hector, wedi'r wers, am help a chyfarwydd ar bwynt a barai anhawster iddi, teimlodd yntau, am y tro cyntaf, efallai, ias o'r pleser a ddaw o awdurdod o oleuni cywir ar y broblem.
'O, wn i ddim,' atebodd Hector yn gelwyddog.