Oddi yno, aeth at John Williams, Hen Dy, a gofyn iddo fynd i nôl yr heddgeidwad Hugh Francis.
Tystiodd yr Heddgeidwad Francis iddo fynd i Dyddyn Bach wedi iddo gael gwybodaeth gan John Williams ac iddo weld y corff yn gorwedd ar ei ochr chwith a'r pen mewn pwll o waed.
Cyn i'r heddgeidwad gyrraedd, fodd bynnag, daeth Edward Owen, Tyddyn Waun, i Dyddyn Bach yn ôl ei arfer, i nôl llaeth i'r moch.