Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

heddi

heddi

'Mae Jimmy Maher yn dod heddi - mae e wedi ca'l cyfartaledd o 70 dros y tymor yn Awstralia.

'Paid ti â meddwl dy fod ti'n mynd i osgoi cael dy gosbi am be wnest ti heddi, Dilwyn Dafis.

Rwy'n meddwl fod yr awdl yma (sef ei awdl gadeiriol yng Nglyn Ebwy, 1958, i Gaerllion-ar-Wysg lle mae'r henwr yn cynghori'r gwr ifanc i gadw'n glir o gaer y Rhufeiniaid) yn fwy perthnasol i'r sefyllfa sy 'da ni heddi (nag oedd hi adeg ei chyfansoddi yn 1958).

Roedd hi wedi dweud wrtho am adael llonydd i hwnna heddi - byddai'r bachgen yn ddigon amharod i fynd nol i Benderin fel yr oedd hi!

Dociau newydd Caerdydd oedd y dynfa a 'drychwch ar eu stad nhw heddi a'n stad ninnau pe dôi hi i hynny.

Cownta faint o goed deri weli di ar y ffordd heddi.

"Gwraig ifanc bedair ar ddeg ar hugain oed 'ryn ni'n gladdu 'ma heddi," meddai'r pregethwr.