Ac ail-ddatganwyd egwyddorion sylfaenol Cymdeithas yr Iaith mewn cynnig gan Angharad Tomos a Dafydd Morgan Lewis, sef bod Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sosialaidd, ei bod yn fudiad di-drais sy'n credu mewn heddychiaeth ymosodol ac yn cymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd.
'Roedd ei heddychiaeth drwyadl yn mynd yn ôl i'w ddyddiau cynnar.
Nid ydym wedi llwyddo fel y dymunem i wneud heddychiaeth yn rhan gynhenid o'r foeseg Gristionogol, fel, dyweder, geirwiredd neu ddiweirdeb.
Rhaid cydnabod na chawsom hi'n hawdd cynnal y dystiolaeth tros heddychiaeth.
A chyfunai ei heddychiaeth â safiad digymrodedd tros sicrhau hunanlywodraeth i Gymru.
Ymgyrchwr diflino ydoedd - dros amryw byd o achosion, gan gynnwys masnach rydd, dirwest, heddychiaeth, addysg wirfoddol, cymdeithasau dyngarol ac Ymneilltuaeth radical.
Ar ôl crynhoi'r dystiolaeth am agwedd yr Eglwys Fore at ryfel a dangos ei hymlyniad diwyro wrth heddychiaeth, a dweud ychydig am ddechreuadau heddychiaeth fodern, daw'r awdur at ei brif bwnc.
Gan mai heddychwyr cadarn oedd tad a mam Waldo, yn anochel fe ddatblygai hi'n ddadl boeth ynghylch heddychiaeth, gyda'r hen ewythr yn dal y dylid gyrru'r holl heddychwyr i'r ffosydd yn Ffrainc.