Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

heddychwr

heddychwr

Nid heddychwr mo Saunders Lewis ond gwelai'n eglur, yng ngoleuni ei egwyddorion ei hun, nad oedd nac ymarferol na chyfiawn i frwydro'n arfog dros ryddid ei genedl.

Nid oedd Gruffydd yn heddychwr ond edmygai heddychwyr megis Thomas Rees, John Morgan Jones a George M.Ll.

Ac o gofio'r heddychwr ynof, ni allai'r geiriau fod wedi disgyn ar ddaear mwy ffrwythlon.

yn Y Faner yn honni nad oeddent hwy yn Sir Benfro wedi diswyddo'r un heddychwr, ond yn unig eu bod heb gyflogi rhai newydd.

Nid lle'r gohebydd yw arwain ymgyrch heddychwr yn erbyn rhyfel ond, os oes miloedd o filwyr ifanc yn debyg o golli eu bywydau yn y rhyfel hwnnw, fe ddylai'r llywodraeth a'r bobl adre' wybod hynny.

Dyna paham y gallai Jean Jaure/ s, y sosialydd a'r heddychwr mawr o Ffrancwr, ddweud, "Os dinistriwch y genedl fe giliwch yn ôl i farbareiddiwch".

Yr oedd yn gymeriad lliwgar, yn heddychwr y rhoddwyd min ar ei dystiolaeth gan y clwyf a ddioddefodd fel milwr yn y brwydrau yn Nyffryn Somme yn ystod Rhyfel Byd I.

Yr oedd yn ymladdwr wrth reddf er na fu gwrolach heddychwr erioed; câi fwynhad wrth ganmol daioni dynion, eithr gwae y rheiny a fanteisiai ar y gwan ac a ormesai'r lleiafrifoedd.