Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hedyn

hedyn

Wedi'r cwbl, hedyn ydi'r gneuen ac mae'n hawdd iawn i'w chael.

Nid oes lle i gronfa fwyd yn yr hedyn ac araf iawn yw twf yr egin.

Abwyd i'r fwyalchen a'i thebyg yw cnwd ffrwyth y ddraenen wen er enghraifft, ond nid felly yr hedyn yn ei ganol.

Ac yntau heb y syniad lleiaf am beth i ysgrifennu, plannwyd yr hedyn yn ei ddychymyg pan soniodd ei wraig am ei phrofiad yn cynorthwyo i chwalu ei gartref yn Llanberis bedair blynedd ynghynt, wedi marw ei fam.

Ond, rhywfodd mae yna rywbeth yng nghefn fy meddwl sy'n gwrthod derbyn nad oes hedyn o wirionedd yn y stori, ac rwy'n dal i led-gredu bod rhai dihirod a ddygodd gar yn y Drenewydd tuag ugain mlynedd yn ôl wedi cael yfflon o sioc wrth fynd i chwilio'u hysbail...!

Arno ef hefyd y mae'r bai am hau hedyn fy obsesiwn gyda bylchau.

Prynhawn Mercher ar faes Eisteddfod Llangollen - dyna'n sicr pryd y plannwyd yr hedyn i fynd i Mallorca i gystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd, er na wyddwn hynny ar y pryd.

Erbyn Nadolig y flwyddyn honno roedd yr hedyn wedi dwyn ffrwyth, ac O Law i Law wedi ei chyhoeddi.