Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

heiddo

heiddo

Ac 'roedd Mam a fy chwaer wedi gwnio RJR yn goch ar bob dilledyn o'm heiddo.

Ai ynteu, a ddylai hi dorri llwybr newydd o'i heiddo ei hun, mynd yn groes i'r mwyafrif a dioddef yr amhoblogrwydd a fyddai'n dilyn yn anochel o hynny?

Etifeddai'r naill ddosbarth eu heiddo yn ôl y gyfraith Seisnig, a olygai etifeddu gan y cyntafanedig, a'r llall yn ôl y gyfraith Gymreig (neu Gyfraith Hywel fel y'i gelwid), a olygai rannu'r etifeddiaeth yn gyfartal rhwng meibion, a hynny o fewn uned deuluol ddiffiniedig.

Yn naturiol, yr oedd yn rhaid i'r cyfryw arweinydd gael adnoddau i gynnal ei fyddin, ac fe'u cafodd, i ryw fesur o leiaf, trwy ysbeilio'r Eglwys a'r mynaich o'u heiddo, ac yn arbennig o'u da.

Rhaid, drwy gyffyrddiad y bysedd ar y lein, ddychmygu taith y plu ar y blaen llinyn, a thrwyddynt gyfieithu pob cyffyrddiad ac ystum o'u heiddo yn ddarlun o'r hyn sy'n digwydd yn y pwll.

Yr oedd gwir angen symud ymlaen a'r cynllun ac argymhellodd fod y Cyngor yn ymgymryd â'r gost o gysylltu'r holl dai a bod Cyfreithiwr y Cyngor yn edrych i mewn i gyfrifoldeb perchenogion y tai a werthwyd gan y Cyngor i gyfarfod â'r gost mewn perthynas i'w heiddo hwy.

Roedd rhai wedi llwyddo i gydio yn rhywfaint o'u heiddo cyn ffoi; roedd eraill yn waglaw ac wedi cerdded yr holl ffordd.

A sut mae diogelu cleifion rhag drwg fwriadau perthasau sydd eisiau gweld eu diwedd, er mwyn meddiannu eu harian a'u heiddo?