Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

heidio

heidio

Os gwerthir car fu'n eiddo i berson enwog, llwyddiannus neu gyfoethog, bydd pobl yn heidio i brynu'r car yn y gobaith y caiff lwc y cyn-berchennog ei drosglwyddo i'r perchennog newydd gyda'r cerbyd.

JGE, hefyd, ydir dyn yna y mae'r merched i gyd yn heidio i'r ffenest i rythu arno yn yr hysbyseb Coke.

Crensiai'r eira dan eu traed wrth iddynt heidio'n swnllyd a Jean Marcel yn eu harwain tuag at y seidin unig.

Ac mae lle i gredu eu bod nhw mor dwp a hynny achos yn y wlad honno maen nhw'n heidio i'r sinemâu i weld Pearl Harbour gan fomio Bay a Bruckheimer a'u doleri wrth eu miliynau.

Byddant yn heidio amdano fo ac yn neidio ar ei gefn, yn gwasgu'u sbardunau pigfain i'w ystlysau ac yn ei fflangellu'n ddidrugaredd â'u gwiail tân.

Anawsterau felly yn amlach na pheidio sy'n wynebu'r myrdd o newyddiadurwyr fydd yn heidio'n rheolaidd i wahanol uwch- gynadleddau.

Gwelais grwp yn heidio ar fryn bach - sgiais atynt a holi'r hyfforddwr pa le'r aeth fy un i - gan yr hoffwn innau ei ddilyn?

Ymhlith y cynlluniau lu sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol y mae un i ddod a Chymru i sylw y miloedd o bobl sydd yn heidio i Wyl Siopio enwog Dubai bob blwyddyn.

Roedd y dorf yn gyfarwydd iawn ar gân Bys Yn Dy Glust ac yn heidio i flaen y llwyfan.

Roedd braidd yn anodd byw yn un o'r ychydig rai o fewn y gymdeithas a oedd yn gweld mai dim ond Cariad oedd yn bwysig pan oedd pawb, hyd yn oed y rhai heb ddwy goes i'w cario, yn heidio i ymuno â'r Home Guard.

Bendithiwyd y penwythnos, drwy lwc, â thywydd braf ac achosodd hynny i deuluoedd a thrigolion yr ardal heidio i'r pentref.

Trowch i'r chwith i gylchynnu'r llyn, mae'r llwybr yn hawdd i'w ddilyn, yn wir, cymaint fu'n heidio yma'n ddiweddar bu'n rhaid ei atgyfnerthu rhag achosi erydiad pellach.