Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

helaethaf

helaethaf

Ac yntau'n frodor o sir Frycheiniog, ac wedi treulio'r rhan helaethaf o'i oes yn llafurio yn y sir honno, y mae'n teilyngu amlygrwydd mawr yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Am y rhan helaethaf o oes y chwareli roedd i'r 'ceffyl gwaith' - canys dyna fel y cyfeirid ato - ei le a'i ran ym mhatrwm eu gweithio.

Yr oedd y pedwar esgob Cymreig - a'u seddau yn Nhyddewi, Llandaf, Bangor a Llanelwy - bellach yn cydnabod uchafiaeth Archesgob Caergaint; ac yn ben ar y cwbl, wrth gwrs, yr oedd y Pab yn Rhufain (neu'n hytrach yn Avignon yn Ne Ffrainc am ran helaethaf y bedwaredd ganrif ar ddeg).

Ond yn ystod ac ar ôl yr Ail Rhyfel Byd, gwelwyd chwyldro arall yn camu ar draws cefn gwlad Cymru ac yn wir ar draws y rhan helaethaf o'r Byd Datblygiedig - sef yr Ail Chwyldro Amaethyddol - chwyldro oedd yn aml mewn gwrthdrawiad ag egwyddorion cynaladwyaeth.

Rhan bwysicaf gwaith y gwleidydd yw ceisio sefydlu'r amodau i helpu pobl bob yn un ac un i fyw'r bywyd helaethaf posibl.

Mae llawer mwy y gellid ei ddweud am y ddrama hon, y rhan helaethaf ohono'n dda, ond 'ddywedaf i ddim mwy.

TELEDU: Fel y gwelwch oddi wrth y llun lloeren, mae'r gwasgedd isel enfawr hwn yn dal i eistedd dros y rhan helaethaf o Ogledd Ewrob.

Ar sail canlyniadau'r arolwg, dylid anelu at sefydlu cyfundrefn o ledaenu adnoddau sydd yn gost-effeithiol a sydd hefyd yn sicrhau y defnyddd helaethaf o'r holl adnoddau a gynhyrchir gydag arian cyhoeddus.

Mae'n rhaid gwneud yn siwr hefyd fod aelodau'r Cynulliad yn gwneud y defnydd helaethaf posibl o'r Gymraeg ac yn manteisio ar bob cyfle i wneud hynny.

Am ryw reswm, mae ei thad yn gadael y rhan helaethaf o'i eiddo iddi hi a hynny yn codi gwrychyn ei mam, sydd yn achosi i CJ i symud i fyw at ei sboner.

TELEDU: (O dan hyn i gyd) Felly mae'r tywydd yfory am barhau yn ddiflas a digalon iawn dros y rhan helaethaf o'r wlad.

Yn wir, roedd y rhan helaethaf o'r cymdeithasau adeiladu heb yr un gair o Gymraeg ar gyfyl y lle.

Dylid trafod gydag adrannau eraill o'r cyngor, asiantaethau a'r sector wirfoddol sut y gellir gwneud y defnydd helaethaf o adeiladau ac adnoddau ysgolion i wasanaethu'r gymuned.

Defnydiwyd gymysgedd o CorelDraw 3 a 4 a Paint Shop Pro 3 i greu'r graffeg; HTML Notepad yna Windows Notepad (pan sylweddolwyd bod HTML Notepad yn crap) i sgrifennu'r tudalennau HTML; Netscape Navigator 1.1 a 2 (fersiynau 32-bit) i brofi'r tudalennau; Word 6 i sgrifennu'r rhan helaethaf o'r cynnwys; a PageMaker 5 i gysodi a dylunio'r Tafod go iawn; a hyn i gyd yn rhedeg ar Windows 95 (ie, ie, ie, dwi'n sycyr, ond mae o werth o jyst am yr hwyl o allu gael tafod y ddraig fel eich saeth llygoden).

Yr ydym yn hen gyfarwydd bellach â darllen am gyfraniad teulu'r Wyniaid o Wedir, Sir Gaernarfon, i hanes cymdeithasol Cymru rhan olaf yr unfed ganrif ar bymtheg a'r rhan helaethaf o'r ganrif a'i dilynodd.