Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

helaethrwydd

helaethrwydd

Gyda dim ond ffin eang ac agored rhyngom a helaethrwydd Lloegr, y mae union natur cenedligrwydd yn peri penbleth.

Ond problem unrhyw ddiwylliant lleiafrifol yw ei bod yn straen ar adnoddau dynol ac ariannol gorfod darparu'r helaethrwydd defnyddiau sy'n angenrheidiol i blesio chwaeth amrywiol y gynulleidfa, ac na ellir chwaith fforddio troi unrhyw ffurf lenyddol i gyfeiriadau rhy esoterig ddeallusol ar draul ennyn diddordeb y mwyafrif (sydd ynddo'i hun yn lleiafrif!) Felly rhaid o hyd ennyn diddordeb yn y gair Cymraeg printiedig trwy gyfrwng pethau fel Cyfres y Fodrwy neu'r papurau bro, er bod y wasg argraffu'n anleu fwyfwy at bobl sy'n meddwl yn ystyriol erbyn hyn.

Iawn yw i arglwydd ennill clod a bod yn batrwm i'w farchogion, oherwydd nid gweithgarwch 'diffrwyth' mohono bellach gan ei fod yn foddion cyfoethogi 'ei lys a'i gydymddeithon a'i wyrda o'r meirch gorau ar arfau gorau ac o'r eurdlysau arbenicaf a gorau'.' Trwy'r adran hon gwelir yr awdur, ac mae'n debyg ei gynulleidfa a'i noddwr, yn ymhyfrydu ym mhasiant y llys, gloywder lliwiau a helaethrwydd anrhegion a gwleddoedd ac yn urddas gosgorddion 'yn wympaf nifer a welas neb erioed', fel na ellir peidio â sylwi ar ei ddiddordeb byw yn ystyr arglwyddiaeth a'r mynegiant gweladwy ohoni.

Gwir fod D J yn rhoi o helaethrwydd ei gydymdeimlad a'i hoffter o'r natur ddynol ym mhob cyflwr, a Lingen yn dadansoddi'n oer heb flewyn ar ei dafod.