Diolch byth, yr oedd y llanw wedi troi a blas yr heli yn ei ffroenau, fe ddeuai ffrwd o fywyd newydd i'r harbwr gyda'r llanw i ysgubo'r surni oedd ar y tywod ac o'i hysgyfaint hithau.
Y môr yn gynnes a llawn heli cryf wrth inni nofio'n hyderus tuag at y dwr brown yn ein gwahodd ni tua'r traeth a gweld eglwys wen, fechan, ar y lan.
Anadlodd yn ddwfn wrth fynd trwy'r drws a theimlo'r heli'n pigo'i ysgyfaint.
Erbyn cyrraedd y Foryd roedd wedi cynefino â'r heli - ac am bedwar tymor bu'n pesgi ar larder fras yr Iwerydd.
Ar lan y môr heli ni thyfodd erioed Na bedwen na gwernen na draenen ar droed, Nac unmath o goedydd ond llwyni o frwyn; Dan gysgod y rheini daw defaid ag žyn.
tu ol ymlaen, socs - un o bob par ac un tu chwith allan, gwadan fy esgid yn rhydd ac yn fflapian fel aden, fy ngwallt yn heli i gyd - a 'd on i'n malio dim!
Dringodd nifer o'r morwyr i lawr atynt, penderfynodd y capten ac Ibn eu bod hwythau hefyd ag awydd rhoi troed ar dir sych wedi wythnosau ar fwrdd drewllyd y llong a blas yr heli ar bob dim: 'Lle ydan ni?' Ibn ofynnodd y cwestiwn wrth wylio'r lan yn nesa/ u: 'Tuscani.' Atebodd un o'r morwyr cyn ychwanegu: 'Dwi'n meddwl.' Ond doedd Ibn ddim callach.