Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hendre

hendre

Muda gylfinir, cornchwiglen a phibydd y mawn yn heidiau o'u hafotai ar y mynydd i'w hendre ar lan y mor.

Bu llawer o adeiladu, a datblygodd pentref hollol newydd yn Nhrefor, lle gynt y bu'r Hendre a'i hychydig ffermydd a'i harfer o adeiladu cychod.

Yr adeg hyn aeth pont yr Hendre i lawr o dan wagen a llwyth o had alffalffa, a bu i'r gyrrwr a'r ceffylau farw yn y ddamwain; o'r herwydd 'roedd rhaid i Mrs Freeman fynd mewn cerbyd at yr afon, croesi ar y bont droed gyda'r basgedi menyn, a chael menthyg cerbyd Thomas Pugh i fynd at Drelew.

Hynyna o goffadwriaeth am sale Llwyd Hendre Llan.

Roedd y pâr ifanc, fel y mwyafrif o blant dynion, yn bur dlodion, heb nemawr o ddodrefn na dillad, a chan fod y gaeaf yn nesu, penderfynodd y penteulu fyned i sale Hendre Llan, ran debyg y byddai yno le da i gael pâr o wrthbannau am bris rhesymol, yr hyn oedd arno fwyaf angen o ddim.

Yn y bennod gyntaf cyflwynir ni i'w deulu: llinach Ellisiaid Hendre Ddu, Y Bala, a Thyddyn Eli, Llangwm.

Cafodd lawer o lyfrau am bris isel er mwyn hynny yn arwerthfa Llwyd Hendre Llan.

Roedd un aelod o'r teulu, Catherine Ellis, merch Hendre Ddu, wedi priodi Y Parchg Harri Cadwaladr, ewythr i Kate Roberts.

Modd bynnag, daeth y gwr adref gyda'r nos o'r Hendre gyda sachaid o sale ar ei gefn; a deuai ei wraig i'w gyfarfod gan ei gyfarch: 'Cawsoch wrthbannau, Dafydd?'

Wrth sôn am arwerthfa Llwyd Hendre Llan, cofiwn glywed am ŵr ifanc newydd briodi a mynd i fyw i Gastell Bwlch Hafod Einion, penty bychan digysgod ar y gefnen fwyaf rhynllyd ym Mro Hiraethog.