Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

heolydd

heolydd

'Roedd ei waith yn un a oedd yn mynd i barhau, a hyd yn oed ar heolydd garw'r wlad, gallai olwynion o wneuthuriad y saer lleol gael eu defnyddio am tua thrigain mlynedd.

Rhydd i'r deunydd hwn driniaeth y nofelydd: clywn leisiau'r bobl yn siarad; gwelwn gymeriadau unigol yn cerdded ar hyd caeau a heolydd yr ardal; ac felly deallwn hwy yn eu perthynas â'r byd yn ei agweddau cymdeithasol, masnachol, crefyddol.

'Roedd heolydd yn croesi'r rheilffordd y naill ochr i orsaf Lanelli.

Dichon ei fod yn gwybod mwy o ganeuon a baledi Cymraeg na neb a adwaenem, a daliodd i'w canu yn y tafarnau ac ar hyd yr heolydd hyd y diwedd .

Byddai Morgan Llwyd yn pregethu ym Mhwllheli ar ddyddiau marchnad, a'i arfer oedd myned trwy'r farchnad a'i ddwy law ar ei gefn, a'i Feibl yn ei law; a byddai y bobl yn cilio o'i flaen, fel pe buasai gerbyd yn carlamu trwy'r heolydd.

Digwyddasom fod gyda chyfaill ar un o'r heolydd sy'n rhedeg i Broadway - prif heol New York - a chlywem oddi draw sŵn y band yn chwareu.

Ond i'r teithiwr busnes sy'n cyrraedd y maes awyr ac yn llogi tacsi er mwyn cyrraedd ei westy, llwyd a dilewyrch yw'r argraff gyntaf o'r drefedigaeth; heolydd penrhyn Kowloon rhwng y maes awyr a'r twnel i ynys Hong Kong yn dagfa drafffig fyglyd, fflatiau'r pumdegau a'r chwedegau yn salw o'u brig i'w bôn, ysbwriel o'r lloriau uwchben wedi disgyn yn bentyrrau pwdr ar y mân doeon sy'n cysgodi prysurdeb y stryd rhag bygythiad glaw tyrfau'r gwanwyn.

Mae i ni fel mawr wynfydrwydd Feddwl heddyw am ei gorlwydd; Rheda mwy ar ein heolydd Gyda'r plant yn ddigywilydd; Nid oes nôd gwaradwydd arni, Nac ysmotyn o wrthuni.