Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hepgor

hepgor

Dyna'r foment y teimlodd Kate bach, morwyn Tyndir, un o'r teithwyr, y byddai hi wedi bod yn ddoethach iddi fod wedi gwrando ar gyngor ei mam a hepgor y Palladium y noson honno.

Oherwydd - a dyma fanylyn chwerthinllyd, ond pam ddylwn i ei hepgor fod y stryd lle roeddem ni'n sefyll wyneb yn wyneb heb asffalt arni.

Yr oedd tlodi'r wlad yn ei gwneud yn amhosibl i filoedd hepgor yr amser i'w plant gael addysg am flynyddoedd; yr oedd pob ceiniog a enillai'r plant wrth weithio ar y ffermydd ac yn y gweithfeydd yn help i ysgafnhau cyni'r teulu.

Yn ystod y cyfnod yng nghanol fy mywyd (hyd at fy nhridegau hwyr) golygai hyn fy mod yn hepgor llawer o weithgareddau oedd yn golygu llawer o gerdded neu os oedd fy arafwch yn amharu ar y gweithgarwch.

roedd llinyn mynegi safbwynt a barn wedi'i hepgor o'r llyfryn cofnod gan nad oedd yn cael ei asesu eleni.

Yr unig brotest wirioneddol effeithiol fyddai i'r bobol hyn hepgor eu ceir yn llwyr a chanfod ffordd arall fwy cyfeillgar o fynd a dod i'w gwaith.

Yn rhai o'i luniau mae'n dal holl ddrama'r awyr uwchben Môn, gan ddefnyddio techneg a hepgor manylion er mwyn dal argraff y profiad a gafodd.

O ollwng tybiaeth (viii) felly, gellir hepgor tybiaethau (iv) a (v) yn ogystal.

Mae gan yr aelodau hyn o'r Cynulliad Cenedlaethol ar Senedd yn yr Alban hawl i £40,000 yn rhyw fath o iawndal am hepgor eu seddau yn San Steffan.

Penderfynwyd, efallai am mai Awdudrdod Datblygu Cymru oedd un o brif noddwyr y prosiect, hepgor unrhyw drafodaeth ar yr angen am Senedd a gadael hynny i adroddiad arall yn y dyfodol.

* Dylai asesu statudol, a chyhoeddi'r canlyniadau, gael ei hepgor yn Gymraeg ar gyfer disgyblion ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf yn union fel y mae asesu'r Saesneg yn cael ei hepgor mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn bennaf.

Cwynai'r Iddewon fod nifer o Balestiniaid, wedi i'r Scuds ddechrau cyrraedd, yn hepgor y 'bore da' arferol ac yn cyfarch ei gilydd trwy ddweud 'Bydded i Dduw roi buddugoliaeth i Saddam'.

Cafodd Matthew Hoggard, y bowliwr cyflym o Sir Efrog, ei ddewis i'r tîm wrth i Loegr hepgor troellwyr yn gyfan-gwbl ar gyfer y gêm hon.

Dro ar ôl tro mae'n symleiddio manylion er mwyn pwysleisio'r hanfodion - y graig, y môr, y tir - gan hepgor manion amherthnasol er mwyn dal ysbryd yr olygfa fel y gwelai ef hi.

"Er mwyn hepgor anhawsterau wrth i bobl dreulio amser yn chwilota yn eu pyrsiau am bres parcio a dal y traffig i fyny fe benderfynwyd peidio â chodi tâl parcio eleni,'' meddai.