Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

herbyn

herbyn

'Hefyd, o'n i'n meddwl i sawl cic gosb fynd yn ein herbyn ni ac o'n i ddim yn deall pam.

Yr unig feirdd a llenorion i heddu ei sylw yw'r rheiny sydd un ai'n cyfranogi o'r un weledigaeth Gatholig, glasurol ag ef ei hun, neu, fel Andre Gide yn adweithio'n hunan-ymwybodol yn ei herbyn.

Am flynyddoedd gwrthododd y Brifysgol roi eu tîm cyntaf allan yn ein herbyn gan ddweud nad oeddem yn deilwng o'r fath anrhydedd, ond un flwyddyn fe gawsom gêm yn erbyn eu tîm cyntaf, ac er iddi fod yn gêm galed, cafodd y Brifysgol gweir.

'Gawsoch chi hi?' 'Ddim eto -' Honnai rhai mai dyma pam roedd y Priodor mor drwm ei lach ar drefi a byth a hefyd yn rhefru pregethu yn eu herbyn.

Yn anffodus, roedd pob un o'r banciau a chymdeithasau adeiladu (ag eithrio'r NatWest) wedi gwrthod gwneud hyn, er i'r Gell eu rhybuddio nhw rhyw chwe mis yn ôl, ac er i Gell Caerdydd ymgyrchu yn eu herbyn ers amser.

Pregeth yn hyrddio'r meddwyn i ganol tragwyddol dân a brwmstan oedd y gyntaf, a chan fod aroglau'r ddiod felltigedig, y taranai'r diwygiwr yn ei herbyn, yn halogi'r ystafell ac yn gryf ar bob awel chwyrnol o'r gadair gyferbyn ag ef, teimlai Dan yn anghysurus wrth ei darllen.

Teimlai Pamela fod barn Duw wedi ei chyhoeddi yn ei herbyn hithau y noson honno a'i bod yn ei chlywed o enau Dowdle.

Pasiwyd Deddf Iaith 1993 gan y Torïaid heb gefnogaeth unrhyw un o'r pleidiau eraill yn San Steffan - i ddweud y gwir pleidleisiodd Plaid Cymru a 'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei herbyn.

Ar ôl hynny, gwrthodasant chwarae yn ein herbyn.

ar ei esgid rhag i honno gael ei gwisgo wrth iddo ddal y garreg yn ei herbyn.

"Mae'n rhaid inni sefyll yn eu herbyn nhw.

On in gwybod bod ganddyn nhw chwaraewyr unigol da ond on i ddim yn meddwl bod ei hamddiffyn cystal a fe ddylsen ni fod wedi sgorion eu herbyn nhw efo ychydig o lwc.

"Ches i ddim fy lladd gan y siarc, a dydech chwithau ddim am gael cyfle i'm mygu i farwolaeth chwaith!" gwaeddodd, gan gicio eto a tharo yn eu herbyn.

Tro dy wyneb tuag at warchae Jerwsalem, ac â'th fraich yn noeth proffwyda yn ei herbyn.

Mae'n wir bod cyfundrefn addysg - gynyddol bwysig - yr ysgolion gramadeg a'r prifysgolion yn milwrio yn ei herbyn, ac yr oedd tuedd ymhlith rhai o'r dosbarth masnachol hefyd i anghofio eu Cymraeg, yn ol tystiolaeth John Davies.

Wrth i'r bêl euraid fu'n arwain Caradog daro yn ei herbyn yn ysgafn tasgodd gwreichion ohoni.

Pwysodd ei lygaid yn ei herbyn a llwyddo i weld rhyw ychydig drwyddi.

'Roedd holl ewyllys ac ysbryd Edward yn gweithio'n ein herbyn.

Gosod warchae arni, adeilada warchglawdd o'i hamgylch, cod esgynfa tuag ati, rho wersylloedd yn ei herbyn a gosod beiriannau hyrddio o'i chwmpas.

Yn yr ymarfer heddiw byddwn yn edrych ar y ciciau cosb a roddwyd yn ein herbyn.

Cynyddodd ei ymgyrch i'm herbyn.

'Rydyn ni wedi wneud o o'r blaen mewn nifer o gemau a mae llawer iawn o glybiau wedi gwneud hynny yn ein herbyn ni.

Pan y'i gorfodwyd i gymryd rhan mewn ymladdfa annheg o unochrog rhoddodd gymorth ysbrydol i wr o'r enw Nestor ac oherwydd ei ffydd bu'n fuddugol er mor anghyfartal y gystadleuaeth yn eu herbyn.

Yr oedd yn barod i ymuno mewn gwrthryfel yn eu herbyn, ymosod arnynt a'u curo, rhwygo'r dorau, chwilfriwio'r ffenestri, gosod y carchar ar dân a dianc.

Ni thybiodd neb fod y plant yn grefyddol, er eu bod wedi mynychu digon o gyfarfodydd y Capel i hawlio braint saint yr Hen Destament i alw unrhyw un a bechai'n eu herbyn yn gythraul ac yn ddiawl hefyd.