Lle'r oedd un genedl yn ddigon cryf i fonopoleiddio Llywodraeth y wlad, gallai droi yr athrawiaeth Herderaidd yn erbyn y lleiafrifoedd.
Camgymeriad, er hynny, fyddai credu bod Unbennaeth Oleuedig bob tro yn niweidiol i ieithoedd lleiafrifol, a'r meddylfryd Herderaidd bob amser yn arf gadarn o'u plaid.