Mae'n ffaith bod yn Hong Kong heddiw nifer sylweddol, ymhlith y boblogaeth o bum miliwn a hanner, sydd heb allu siarad Saesneg; dyna gadarnhad o ffyniant yr agwedd herfeiddiol a barodd i'r llywodraethwr Robinson ganrif yn ôl awgrymu bod amharodrwydd Tseineaid Hong Kong i ymseisnigeiddio yn 'rhyfeddol, os nad gwaradwyddus'.
Ac, eto, bob hyn a hyn, fe fyddai'n codi'i ben yn herfeiddiol a fflach o hiwmor dygn yn dod â gwên i'w wyneb.
ER pan ddywedodd Wiliam yn herfeiddiol na fedrai ddioddef bod yn gardotyn yn hwy yn y chwarel a'i fod am fynd i'r Sywth - yr oedd fel petai bwysau wrth ei chalon.
Digon hawdd credu bod rhywbeth cyntefig yn perthyn iddo hefyd wrth weld ambell enw tîm pêl-droed wedi'i sbre%o'n goch ar wal - Hwn-a-hwn "rules OK!" Gall gofnodi ymgyrch herfeiddiol hefyd - cofiaf weld "English visited Panti% gyda'r dyddiad oddi tano yn Neuadd Breswyl Gymraeg Pantycelyn yn Aberystwyth.
Yr oedd yr heretic herfeiddiol hwn yntau wedi gwrthwynebu'r Eglwys.
Ac wrth reswm, yr oedd ysbryd herfeiddiol y glowyr yn ganlyniad nid yn unig i'r tipyn chwerwedd ynghylch y plocynnau pren ond hefyd i annhegwch didostur holl amgylchiadau eu llafur a'u tal.
Oherwydd ei fod yn drwm ei glyw byddai'r mwyaf beiddgar yn ein plith yn manteisio ar y ffaith honno er mwyn difyrru ein cyfoedion mwy llywaeth - ond roedd yn hanfodol gwneud yn siwr eich bod yn eistedd yng nghefn y dosbarth cyn cymryd cam mor ddewr a herfeiddiol!
Roedd y cwbwl ar dâp - y dagrau, y gweiddi, menyw'n llewygu dan y gwres a'r emosiwn, wynebau oer a gynnau cadarn y milwyr Israelaidd, a baner y wladwriaeth Iddewig yn chwifio'n herfeiddiol ar dir y daeth yn amlwg imi nad oes ganddynt y bwriad lleia' o'i ddychwelyd i'w wir drigolion.
Fel fflach, cuddiodd y fechan ei thrysor y tu ôl i'w chefn, a rhythodd yn fud, herfeiddiol ar ei mam.Mân Sôn - Gruffudd Parry (tud.
'Roedd y dilyniant buddugol yn herfeiddiol, yn gyfoes ac yn llawn o naws y chwedegau a'r saithdegau.
Yna wrth i'r golau tanbaid lifo i mewn fe welais amlinell lori'n gwegian dan ei llwyth o sachau a dynion arfog yn syllu'n herfeiddiol ar bawb a phopeth.
Eu pobl nhw, yn Saeson, Ffrancwyr ac Americaniaid, yw'r cymeriadau lliwgar, herfeiddiol a fu'n brasgamu ar draws cyfandiroedd gan adael ar eu hôl ychydig o oglau alcohol, calonnau chwilfriw a biliau heb eu talu.
Pan ymffyrnigodd y tyndra rhwng awdurdod Rhufain a'r cenedlaetholdeb herfeiddiol daeth gwŷr y dagr, y Sicarii, yn amlwg ymhlith y Selotiaid.
Safai darnau o chwys bron yn herfeiddiol ar ei wyneb, ac roedd ei ddyrnau bron yn wyn wrth ddal y llyw'n dynn.