Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

herio

herio

Ond ofnaf y buaswn i, yn y cyflwr hwnnw, wedi herio Goliath i ymryson yn ei ddull ei hun a'i wahodd i alw Og, Brenin Basan ato, i'w helpu.

Yng Ngrwp A bydd Manchester United yn herio Panathinaikos o Wlad Groeg yn Old Trafford.

Pe bai Aled yn herio'i ewyrth, mi ŵyr mai ar 'i fam y basa'r diawl di-egwyddor yn bwrw'i lid.

Pwrpas y cyfan oedd herio'r holl gamweddau a oedd yn rhwystr i'r Iddewon gyflawni eu priod genhadaeth yn y byd, datguddio daioni Duw nid trwy eiriau'n unig ond trwy lafur enaid.

Clywed y môr yn ei herio ar y gwynt o'r bar a mynd yn bwt o gogydd deuddeg oed ar long hwyliau ei dad.

Ar Galfaria gorchfygodd y Gwaredwr y galluoedd erchyll sy'n herio ei awdurdod a'i frenhiniaeth,

Ond mae'r corrach yn synhwyro bod rhywun yn cuddio yn ymyl y llwybr ac mae e'n troi i'th herio â'i gleddyf yn ei law.

Mae'n weithredu sy'n golygu protestio, herio'r Drefn ac ennyn llid ambell un.

Heb arboeni am 'gywirdeb' a 'heresi' yr athrawiaethau mewn dialog (neu, yn achos Llyfr y Tri Aderyn, trialog) a llythyr a cherdd, y mae'n gymaint haws astudio nid yn unig yr hyn a ddywedir ond hefyd yr awen honno a gais yr hyn sydd y tu cefn a'r tu hwnt i'r cyfryw athrawiaethau, gan adnabod a gwerthfawrogi eto ac eto ac eto ymdrech y dychymyg dynol i herio ein maith maith anwybod.

Cânt dasgau sy'n eu herio ac sy'n briodol i'w hanghenion a lefelau eu datblygiad.

Pan ddaeth yn amser i ni fynd allan i'r iard, daeth nifer o fechgyn o'm hamgylch, fel yn y bore, gan ddangos diddordeb ynof, fel pe bawn yn fod o ryw fyd arall, a dechreusant fy herio fel o'r blaen.

Fe welwn yn glir yn fflachiadau cyhuddgar ei lygaid callestr, yn gymysg â'r hen herio, awgrym o barch gwyliadwrus.

Aeth i fyw i'r mynyddoedd gan ymuno â'r cyrch- filwyr a drigai yno ac a oedd yn gwneud eu gorau glas i herio'r unben.

Yn fab i Ioan Arfon, ac wedi'i fagu ynghanol canolfan ddiwylliannol ferw yn nhref Caernarfon, cafodd y fraint ar ran un cystadleuydd o herio'r Eisteddfod Genedlaethol yn gyfreithiol (ac ennill).

Fel ym mhob maes arall, mae gwaed newydd yn gwbl hanfodol i barhad y sector annibynnol, ac mae'n briodol iawn fod rhywrai o bryd i'w gilydd yn herio hen werthoedd ac yn amau dilysrwydd hen safonau.

Ond yr oedd teulu arall yn Sir Gaernarfon a fynnai dorri crib Syr John Wynn a herio ei flaenoriaeth.

Clywai, er gwaethaf yr eginyn o hunanhyder a oedd yn bygwth blaguro'n betrus ynddo, yr angen am rywun yn gefn iddo yn ei ddiflastod ac i herio'r dagrau o rwystredigaeth a lletchwithdod rhag mentro ymhellach na'i lygaid.

Roedd yn ei herio'n sbeitlyd o hyd.

Buaswn irmau'n ateb y pwynt cyntaf a ddyfyrmwyd o'r Llythyr ynghylch Catholigiaeth trwy fynnu bod gwadu ymhoniadau ysbrydol a gwleidyddol yr Eglwys Babyddol a herio ei hawdurdod cyn hyned ac mor Ewropeaidd â'r Eglwys Babyddol ei hun.

Nid oedd yn chwennych y daith drwy'r gwyll i'r fferm chwaith, ond tasg i'w chyflawni yn y nos ydoedd, y nos oedd yr amser i herio galluoedd y tywyllwch.

Cleciodd ei changhennau noethion gan herio'r gwynt i ddal ati.

Digon tlawd eu byd oedd y rhain yn aml, ac yn dlotach am fod y rhan fwyaf ohonynt yn mynnu herio cyfraith ganon yr eglwys a phriodi !

Maen bosib i'r penodiad gael ei herio gan Auckland, a ganiataodd i Henry adael Seland Newydd ar yr amod na fyddain hyfforddi neb ond Cymru.

Hithau'n ei herio nad oedd o' ddigon o ddyn i dorri'n rhydd, ond wrth weld ei lygaid yn caledu, diarhebai ati ei hun yn ei annog.

Dyna ydi dialectig y frwydr — bod ni'n herio syniadau pobl ac yn peri i newid digwydd.

On dnid yw'r genre hwn bellach yn cyfleu'n ddigonol, nac yn herio, y profiad Cymreig cyfoes.

Cododd y ffermwr ei lais a rhybuddiodd y bechgyn fod dau arall o'r pentref wedi herio'r ysbryd hanner can mlynedd yn ôl ar noson Calan Gaeaf.

Y mae i'w ganmol am herio'r esboniad arwynebol hwn.

Fis diwethaf, roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi herio Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol, Alun Michael, i wneud yn siwr y byddai Araith y Frenhines (sydd yn gosod ger bron raglen waith llywodraeth Westminster am y flwyddyn i ddod) yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu Deddf Addysg.

Y Cymry sy'n anghwrtais yn herio'r gwaharddiad.

Roedd yn amlwg fod rhywbeth y tu ôl i'r holl siarad a herio yma, fel y dywedodd tad Ifan wrtho.

Mi fyddwn ni'n herio pwy bynnag sydd yna o ran y cwangos addysg, os ydyn nhw'n bresennol, ac mae hynna'n cynnwys y Bwrdd (Iaith)."

Mynnwn fod cymunedau Cymru a'r iaith Gymraeg angen grym deddfwriaeth gynradd i ateb gofynion eu lles gorau ac i herio'r anghyfiawnder a'r dinistr sydd wedi ein caethiwo fel cenedl gyhyd.

Yn y pumdegau, roedd Cuba'n chwilio am ddyn a allai adfer eu balchder cenedlaethol drwy herio'r Unol Daleithiau, dyn na fyddai'n cael ei lygru gan arian y Mafia.

Mae llun Y Ffin a berfformiwyd yn Eisteddfod Dyffryn Clwyd yn cynnig darlun o gyfeillgarwch clos sy'n cael ei herio a'i falu gan eiddigedd rhywiol.

Gallwn ninnau ddweud fod Saunders Lewis y clasurydd - trwy'i adnabyddiaeth dosturiol o gymhlethdod natur dyn, a thrwy herio'i gymeriadau i fentro - ei fod yn osgoi ffurfioldeb crebachlyd y ddeunawfed ganrif, ac yn ymgyrraedd at synthesis rhwng clasuraeth a rhamantiaeth: prawf arall o annigonolrwydd y termau hynny.

Bu profiad arall, mae'n ymddangos, yn drech nag amynedd y rhadlonaf o gystadleuwyr ac yn ddigon i'w ddarbwyllo rhag herio ffawd am y trydydd tro.

'Does neb sy'n herio Serosadam, Tywysog Arian y Tair Planed, yn dianc â'i fywyd.' Dechreuodd chwyrlio'r mes yn ei law.

Yr her i bob un ohonom wrth daflu'n rhwyd ymhellach, a thrwy wneud hynny herio rhai confensiynau ceidwadol Cymreig, yw ceisio cyrraedd y grŵp sylweddol hwn o Gymry Cymraeg a cheisio denu eu cefnogaeth yn araf bach i weithgareddau ac adloniant yn yr iaith Gymraeg.

Dyma'r gwr a ddaeth i'r maes i herio teulu Gwedir.

Herio moesau - ddoe a heddiw

Yn y ddau waith, yr hyn y ceisir ei ennyn ynom yw'r argyhoeddiad fod y cylch canolog o gymeriadau'n 'iawn', mai ynddynt hwy y costrelwyd prif egwyddorion y traddodiad, a'u bod yn benderfynol o herio gydag angerdd cyfiawn y grymoedd hynny sydd ar fin rhuthro fel cenfaint o foch a sathru'r egwyddorion santaidd.

Parhau mae'r ansicrwydd a fydd Caerdydd yn herio trefnwyr Cwpan Heineken Ewrop a dewis y prop Peter Rogers ar gyfer eu gêm yn erbyn Toulouse yfory.

Hwyrach mai'r gremlin bach hwnnw sydd ynof sy'n gwneud imi wrthryfela a herio awdurdod a wnaeth imi 'i rhoi i lawr.

Hanes MAC a'r FWA, a fu'n herio llywodraeth Lloegr yn y 1960au.

~ iolen stopiodd i herio'r hen gyfeillion a orweddai yno trwy weiddi 'Dowch allan rwan os ydach chi isio paffio efo fi fel roeddach chi'n gneud erstalwm!

Yn enwedig ac yntau'n ymddwyn fel petai yn fy herio i i fynd a'i adael o ar ei ben ei hun yn y fflat yma ar y fath dywydd.

Yn neidio'r cownter, os wyt ti'n cofio, ac yn herio Ifan y Tyrchwr i dynnu torch." "Mae'r rhod wedi troi er hynny, was i.

Pan welwn nhw felly'n ymfyddino, a Thalfan yn agosa/ u fel rhyw Urien Rheged i'm cyfarch a'm herio â chawod o regfeydd, hiraethwn am ddihangfa, a dychmygu fy hun yn neidio ar un o'r beiciau a phedlo nerth fy nghoesau nes cyrraedd diogelwch tangnefeddus y dref, y traeth neu'r foryd.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi herio Alun Michael A.C. Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol i wneud yn siwr y bydd Araith y Frenhines y Mis nesaf (fydd yn gosod ger bron raglen waith llywodraeth Westminster am y flwyddyn i ddod) yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu Deddf Addysg benodol i Gymru.

Tro Casnewydd yw hi i herio Llanelli ar Rodney Parade heno.

Chastell Nedd fydd yn herio Casnewydd ac fe fydd hi'n frwydr ddiddorol, yn arbennig rhwng y ddau hyfforddwr.

Polisi tra gwahanol oedd ar dafod arweinydd glowyr Aberdâr, Charles Stanton: rhaid cynnull 'brigâd ymladdgar o lowyr' i herio trais yr heddlu a thrais y dosbarth llywodraethol, taranai.

Bydd Swail yn herio'r roced, Ronnie O'Sullivan, sy'n bygwth ffrwydro.

Un peth amlwg yw fod Saunders Lewis yn herio llenorion i fynd i'r afael o ddifri â phynciau mawr eneidegol y bywyd dynol.

Mae'n amlwg oddi wrth ei holl gynnyrch, er gwaethaf ei barch at reswm, at drefn, at ffurf mewn bywyd a chelfyddyd, nad pleidiwr llythyren farw'r ddeddf ydyw o gwbl, oherwydd mae'n barhaus yn herio'i gymeriadau i gamu y tu hwnt i gylch cyfyng eu harferion traddodiadol a gweithredu'n greadigol er mwyn meddiannu gwirionedd uwch.

Ceisiodd y Torïaid brynu'r Cymry Cymraeg trwy roi iddynt grantiau i ddiwylliant Cymraeg a'u Quangos bach eu hunain ar yr amod nad oeddent yn herio'r drefn.

Ond mewn un ffordd, efallai mai da o beth yw fod brwydr yr iaith bellach yn ol yn nwylo'r bobl, a gwelwyd ymgyrch gref eisoes i herio Awdurdod Iechyd Gwynedd.

Ymatebodd Cymdeithas yr Iaith drwy anfon y llythyr canlynol i herio ei sylwadau.

Y mae dyn erioed wedi dymuno ennyn bendith y duwiau, ymatal rhag herio ffawd a rhagluniaeth ('Fe ddof yfory, os byw ac iach...' ) Mae'n awyddus i ennill lwc dda a chael bod yn ffortunus neu'n ffodus mewn bywyd (ansoddair sy'n tarddu o'r gair 'ffawd').

Ond hefyd mae'r sefydliad rhyngwladol sy'n rheoli marchnata celf - yr orielau â'u beirniaid cyflogedig a'r newyddiadurwyr cynffongar - yn gwbl wrthwynebus i raglenni diwylliannol sy'n herio eu safle breintiedig.

Mae'r Cwrdiaid yn cael eu cosbi am feiddio herio unbeniaeth Saddam Hussein.

Gweithiodd Henryn galed ar rai agweddau on gêm ac ar ddiwrnod da gallwn herio Lloegr.

Does dim dirgelwch ynghylch sut i dorri tir newydd mewn modd llwyddianus, ond, rhaid wrth ewyllys wleidyddol i herio llesgedd a meddylfryd ceidwadol ac israddol.

Iach am ei bod yn tynnu gwen i wynebu gwylwyr gan bortreadu pobl yn herio'n hamgylchiadau yn lle caniatau iddynt eu llethu'n llwyr.

Roedd y cyfeiriadau niferus at Ddafydd yn herio Goliath a frithai bapurau newyddion y gorllewin pan oedd gwledydd y Baltig yn gwrthod plygu glin i Gorbachev yn siŵr o fod yn drysu llawer o'r Rwsiaid yn lan.

Rydym yn sôn am ddim llai na chwyldro os am herio a thrawsnewid canrifoedd o ormes, diffyg grym a gwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg.

Ond mae'r bachgen yn ddigon hen, siawns, i herio'i ewyrth, a mynd i'r coleg heb 'i ganiatad o." "Sam," meddai Snowt, "paid a siarad drwy dy het.

Rydym yn cydnabod yr anawsterau wrth herio'r status quo ond yn fodlon cymryd cyfrifoldeb i geisio newid y drefn ac yn benderfynol o lwyddo. 02.

i herio'r drefn a ddinistriai ein hiaith.