Os yw meddwl, teimlo ac ewyllysio i'w hesbonio, fel cylchdro'r planedau, yn ôl deddfau haearnaidd y method gwyddonol, yna ofer sôn am bersonoliaeth rydd.
Roedd gormod yn cale ei ddweud yma - dyn yn methu wynebu'r gwir, twyll yn difetha bywyd, a bod rhai pethau mewn bywyd nad oes modd i'w hesbonio - hyn i gyd mewn rhyw ugain munud.
O ystyried y gweithgarwch mawr oedd ar gerdded yno ar y pryd dan arweiniad Calfin a Beza ynglŷn â chyhoeddi testunau gwreiddiol y Beibl: eu cyfieithu a'u hesbonio, nid yw'n syndod iddynt hwythau ymroi i ddarparu fersiwn Saesneg diwygiedig, seiliedig ar y testunau gwreiddiol a'r ysgolheictod beiblaidd a oedd o fewn eu gafael yn Genefa.
Os oedd y method gwyddonol yr unig ffordd ddilys i sicrhau gwybodaeth am bob gwedd ar y bydysawd, onid oedd yn dilyn fod y bersonoliaeth hithau i'w hesbonio wrth yr un method?