Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

het

het

Ymhen rhyw bum munud, pwy ddaeth i mewn i'r bar, codi peint, a thynnu ei het, ond y plismon hwnnw.

Dos i nol fy het i, Sam.

Daliai Gwyn i dynnu rhagor o hen ragfarnau o'r het.

Rhoddais fy nwrn y tu mewn i'r het a'i gwthio i fyny dipyn.

Roedd Jean Marcel wedi ei weld yn dod drwy'r gawod eira, dyn tal, main, a het ddu wedi ei thynnu dros ei dalcen, a choler ei gôt yn uchel dros y rhan isaf o'i wyneb.

Roedd het anferth o grwyn llewpart ar ei ben.

Credir ei bod yn anlwcus gweld het ar sedd cyn gornest.

Pan fyddai allan gyda'r nos, neu yng Nghaernarfon ar y Sadwrn, gwisgai het a honno wedi ei haddurno â phlu amryliw- -coch y bonddu, petrisen corff gwin, ac amryw eraill.

Prin amser oedd gennyf i gadw fy het ac eistedd wrth fy nesg cyn i Sam ddod i fyny'r grisiau i'm hysbysu bod Matthew Owen wedi cyrraedd.

'Doedd hynny ddim yn rhyfedd gan 'i fod o wedi eistedd ar fy het i nes 'roedd hi'n fflat fel crempog.

Yn y set ol, tynnodd Willie ei het a'i gosod ar ei lin; tynnodd ei law'n ofalus dros y gwallt tenau uwch ei glustiau.

Rhoddodd blwc i'w het dros un llygad fel y gwnai gyda'i gap a cherddodd fel ewig i gyfeiriad y Tŵr a godai'n saeth o ser i'r awyr.

Gwisgodd Reg harnais a rhoes het galed am ei ben.

Wedyn, cot law a het ac ambarel, cloi'r drws, a ras ar draws y cwrt am y garej.

Rhaid defnyddio eli haul ffactor uchel, gwisgo het a dillad cotwm llac.

Ond yn awr sylweddolais y byddai mynd i bregethu heb het yn rhywbeth hollol anweddus yng ngolwg y saint.

Cymrodd fy het gan ei 'sgubo i fyny yn ddeheuig.

Croeso i'r Hengwrt, foneddiges...a chroeso'n ôl i fywyd" A moes-ymgrymodd Hywel Vaughan gan ffugio sgubo'r llawr â het ddychmygol.

Ond na, erbyn meddwl, fe ddylai o brynu ffon, un a thipyn o sglein arni, i fynd gyda'i het newydd.

Gosodais y bag bach ar fy nglin a rhoddais yr het ar y sedd wrth fy ochr.

Rydan ni'n falch fod Celtic yn yr het gyda ni, meddai Gwyn Pierce Owen, Llywydd Bangor.

Gall y gwybodus ddilyn lli'r atgof amdanynt, am eu gwragedd a'u plant, am het newydd a brynwyd yn y fan a'r fan, am ymbarel a adawyd ar ôl yn y lle a'r lle.

Aeth Anti a fi i siop ddillad a phrynodd het i mi.

Roedd Rowland yn aros amdani pan ddaeth hi'n ôl wedi diosg ei mantell a'i het, a theimlai Meg bigiad o anniddigrwydd wrth sylwi ar ei wyneb di-wên.

Het a gwasgod Pwy fasa'n meddwl fod het a gwasgod yn bethau mor hanfodol bwysig i bregethwr, yntê?

Caeodd y bag a gosod ei het fel iar i ori arno.

Cafodd sawl bluen i'w het drwy sicrhau yr unig gyfweliad a roddodd y seren o Hollywood, Keanu Reeves, yn Ngwyl Glastonbury ynghyd â sgwrs brin gyda Syr Cliff Richard.

Gwisgai het silc ddu pan fyddai'n mynd at ei waith yn nhai a ffermdai'r ardal.

Drws troi oedd o a chafodd drafferth i wthio trwyddo, ond wedi llwyddo, yn reddfol, tynnodd ei het fel pe bai wedi cyrraedd y capel.

Mae'n eistedd a'i ochr atom ar y chwith yn y darlun, het am ei ben ac yn dal jar bridd.

Gwthiodd Seren lawer het ffelt galed dros glustiau coch gwladaidd y diwrnod hwnnw.

Dyma fi wedi difetha'ch het chi, syr.' 'Hidiwch befo,' meddwn innau.

Yr oedd gennyf gymaint o feddwl o Ioan Brothen fel gūr diwylliedig nes imi ddweud ar ddarlith i fyfyrwyr Bangor un tro : "O ran ei ddiwylliant mi dynnwn fy het i Ioan Brothen na chafodd ond chwech wythnos o ysgol o flaen eich hanner chi% Ym myd hynafiaethau bu Ioan Brothen yn fwy o help imi na neb.

A dyna ble'r oedd yr het goch a gollais - a Richard o dani hi.

Fe hoffai godi ei het arnynt; yn lle hynny, gan hercio'i ben winciodd yn ol arnynt.

Yn yr het gyda Bangor fydd Celtic, Halmstad, Ghent a Vasas, Budapest.

Ac yna, y mae Wiliam yn rhoi ei gôt uchaf amdano, a'i het galed am ei ben, ac yn lapio crafat mawr ddwy-waith am ei wddf; yna yn cymryd gafael yn y fasged a orffwysai fel tynged ar ben y bwrdd mawr er y noson cynt, yr un fasged ag a ddawnsiai wrth ochr y frêc bedair blynedd cyn hynny, ac a welwyd yn cychwyn Owen i'r Coleg.

Mae gan Jac broblem - y mae wedi colli ei het bêl-droed.

Edrychodd ar ei het.

Mi dd het a phan godais i hi o'r dŵr

"Bombacha% a "boots" duon, cot dywyll, het ffelt ddu a hances sidan wen am eo wddf.

Prynu het a fu raid i mi, beth bynnag - het galed, bowler hat.

Digwyddodd droi ei ben, a dyna lle safai Yallon: ei het silc am ei ben, ei chwip yn un llaw, a'i fenyg yn y llaw arall.

Marged Pritchard - Yr Het.

Mi fu bron iddo â cholli'r het unwaith medda fo--'Roeddwn i newydd ddechra' pysgota ar lan y llyn pan ddoth 'na bwff reit sydyn o wynt a'i chwythu i'r dwr.

'Ydi hanner coron yn ddigon i dalu am het pregethwr, deudwch?' Twt lol,' atebais, "does dim eisio ichi dalu dim.

A dyna pryd y dysgais i fod het a gwasgod yn bethau hanfodol angenrheidiol i bob ymgeisydd am y weinidogaeth.

Bob nos Sadwrn fe fyddai Mati'n gwisgo'i gêr arferol ū hen gôt racslyd a llinyn wedi'i glymu am ei chanol; het dyllog; trowsus ribs; blewyn o wair yng nghornel ei cheg.

Ond mae'r bachgen yn ddigon hen, siawns, i herio'i ewyrth, a mynd i'r coleg heb 'i ganiatad o." "Sam," meddai Snowt, "paid a siarad drwy dy het.

Wedi cael ei het, aeth allan am wynt.

A chredwch chi fi, nid peth hawdd oedd mynd i mewn i fws llawn a'r bag bach yn un llaw a'r het galed yn y llaw arall.