Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hetifeddiaeth

hetifeddiaeth

dylem barchu ein hetifeddiaeth a gwneud yn fawr o bechod.

Wedi fy arswydo gan dlodi difenwol fy mhobl sy'n byw mewn gwlad gyfoethog; wedi fy nhrallodi gan y modd y cawsant eu hymylu yn wleidyddol a'u mygu yn economaidd; wedi fy nghynddeiriogi oherwydd y difrod wnaed i'w tir, eu hetifeddiaeth gain; yn pryderu tros eu hawl i fyw ac i fywyd gweddus, ac yn benderfynol o weld cyflwyno trefn deg a democrataidd drwy'r wlad yn gyfan, un fydd yn amddiffyn pawb a phob grwp ethnig gan roi i bob un ohonom hawl ddilys i fywyd gwâr, cysegrais fy adnoddau deallusol a materol, fy mywyd, i achos yr wyf yn credu'n angerddol ynddo, ac ni fynnaf gael fy nychryn na'm blacmêlio rhag cadw at yr argyhoeddiad hwn.

Mae'n hen bryd i Garmon a Bleiddian ddychwelyd i'n plith a'n harwain i fuddugoliaeth ddeublyg heddychlon - ar yr hunan-serch sy'n dryllio'n ffydd ac yn erbyn estroniaid sy'n peryglu'n hetifeddiaeth.

Pa well ffordd sydd i sicrhau nad â'n hetifeddiaeth i ddwylo neb ond y sawl sy'n ei charu'n ddigon eirias i roi pris anrhydeddus amdani?

Enillwn yr hawl nawr i Gymry di-Gymraeg adennill eu hetifeddiaeth.

Y nod yw sicrhau bod cyfle teg a digonol gan bawb i gyfranogi o'n hetifeddiaeth Gymraeg gan amcanu i wneud y Gymraeg yn brif iaith holl bobl Cymru.

Ond gwadu ein hetifeddiaeth yw hynny.