Ond mewn gwledydd eraill, lle nad oedd y brenin neu'r llywodraethwr wedi llwyddo lawn cystal i orfodi'i ewyllys ei hun ar draul hawliau'r Eglwys, byddai'n demtasiwn o'r mwyaf iddo fabwysiadu dysgeidiaethau hereticaidd a roddai iddo gyfoeth ac awdurdod ac a fyddai'n haws eu hieuo wrth agwedd ffafriol ei ddeiliaid tuag at iaith a chenedlaetholdeb.