Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hiraethus

hiraethus

Yn y spectrwm cenedlgarol yr oedd hefyd y math o dduwioldeb hiraethus a ddyheai am ymwared i'r bobl Iddewig ond a ymddiriedai nid mewn unrhyw fraich o gnawd ond, gan ddilyn Eseia a phroffwydi eraill, yn nerth ysbrydol yr Arglwydd.

Yna, mewn llais tawel, a gwên hiraethus ar ei hwyneb dywedodd yr hen wreigan: "Ugain mlynedd yn ôl i heno, fe laddwyd fy merch ar y ffordd ble y gwelsoch chi hi heno, a phob blwyddyn ers hynny, ar y noson arbennig hon y mae rhyw yrrwr caredigyn dod â hi adref, - diolch i chi - fe gaiff dawelwch am flwyddyn arall rwan." Gadawodd y dyn y tþ wedi ei ysgwyd i'w sodlau gan yr hyn a welodd ac a glywodd.'

Cynhwysai nifer o gerddi rhyfel, yn gymysgedd o rai dwys grefyddol, rhai hiraethus-deheuol, ac un ffyrnig o feirniadol.

Mae'r awyrgylch hiraethus a'r ffordd rwydd o drin paent yn cuddio cyfansoddiad delicet o ofalus lle mae llygaid yr edrychwr yn cael ei arwain mewn cylch o gwmpas y das.

Os byth yr ewch i'r Amgueddfa Brydeinig yn Tring fe'i gwelwch wedi'i stwffio ar silff, a golwg digon hiraethus arno.

Edrychodd Siôn Eirian yn ôl yn hiraethus ar gyfnod y mudiad protest yn ei gerdd 'Ymgais i Weithredu', er enghraifft.

Y mae David Ellis yn sôn yn hiraethus amdano mewn llythyr a anfonwyd ganddo (lai na deufis cyn iddo ddiflannu) at Tomi Jones, Cernioge Bach (Aelwyd Brys, Cefn Brith wedi hynny).

Cerdd hynod sydd yn mynd â ni yn ôl yn hiraethus mewn atgof plentyn at gymdeithas glòs y cymoedd glofaol, y cyd-chware, y cyd-addoli a'r cyd-ddioddef; ond mae ing yn yr hiraeth am fod y bardd yn edrych yn ôl ar fyd dewr a dedwydd o safbwynt cymdeithas wedi ei chwalu gan ddiweithdra.

Defod ymatal dynoldeb parchus ydi'r unig rwystr sy'n 'nghadw i'n ol y gwirionyn hiraethus fel ryw i.'

Ambell dro troi a throsi am hydion, ychydig funudau o gysgu a breuddwydio hiraethus ac yna dihuno drachefn a'r breuddwyd gynnau'n deffro pryderon amdanynt gartref.