Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hirben

hirben

Vatilan, lleidr llestri hirben a diegwyddor, oedd yr unig un i Nel erioed ei garu go iawn.

Y ddadl amlycaf ym meddwl y mwyafrif ymhlith y genhedlaeth gyntaf o arolygwyr oedd yr un foesol: wedi'r cwbl, roedd bron pob un ohonynt yn glerigwr mewn urddau a oedd wedi ei gymeradwyo gan awdurdodau'r Eglwys: ond ym meddwl y mwyafrif o'r beirniaid roedd yr hirben a'r moesol wedi'u cydgymysgu.

Heb os roedd yna agweddau moesol i'r bwriadau hirben, ond fe bwysleisiwyd bod dyletswyddau gan berchnogion eiddo yn ogystal â hawliau, a pheth cywilyddus oedd esgeuluso lles y rheini oedd yn ddibynnol arnynt.

Wrth gytuno ag ef, gosododd y Pwyllgor y ddadl hyd yn oed yn fwy cignoeth, gan apelio at ystyriaethau doethineb hirben ac o fuddioldeb yn ogystal â moesoldeb:

Rwyt yn dy longyfarch dy hun am fod mor hirben â'i gael i'th arwain; fe fyddi allan o'r goedwig ofnadwy yma ymhen dim amser.

'Roedd Rick yn rhy hirben yn y pen draw, ond diolch fod honno wedi cilio dros y gorwel, neu dyn a þyrfaint ei gallu i'w hudo i ddinistr.

Ym Mhatagonia y'i ganed a doedd dim yn well ganddo nag adrodd hanesion - gwir a dychmygol dybia i - am ei blentyndod a'i lencyndod yn y Wladfa, yn enwedig ar brynhawn Gwener pan fyddai ambell un mwy hirben na'i gilydd yn ein plith yn gofyn cwestiwn neu'n gwneud sylw a fyddai'n cyfeirio meddwl 'Pat' i'r cyfeiriad iawn.