Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hirfaith

hirfaith

O'i flaen, cyn belled ag y gallai weld, ymestynnai anialwch hirfaith, heb fod yno na phren na llwyn nac afon na llyn na diferyn o ddŵr - dim o gwbl ond tywod melyn a chreigiau noeth.

Ond gall ymdrin â chymdeithas tai fod yn broses hirfaith, gymhleth, a bydd yn fynych yn golygu bod gofyn i staff mewn llochesau ddatblygu gwybodaeth arbenigol mewn maes arall eto, a hwythau eisoes â gormod o waith a rhy ychydig o arian.

Cynddeiriogai wrth weld cannoedd o Gymry ifainc yn gorfod byw mewn tai afiach, bwyta ymborth pitw a derbyn cyflog druenus o fach am eu llafur hirfaith a chaled.

Ac yno y buom yn ei gwarchod ar hyd y nos hirfaith honno.

Cyfnodau o brysurdeb anhygoel, gyda chyfnodau hirfaith o segurdod yn britho'r cyfan.

Eto nid yw hi'n deg disgwyl i drwch y proffesiwn, yng nghanol eu darpariadau ar gyfer y disgyblion, ymgodymu ag adroddiadau ymchwil hirfaith.

Awgryma hyn oll bod angen gwneud gwaith arbrofol hirfaith a drudfawr i'r prosesau sydd ar waith ar safle llongddrylliad.