Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hirlwm

hirlwm

Dyma'r hirlwm, y cyfnod pan oedd bwyd i ddyn ac anifail wedi prinhau ac wythnosau i fynd cyn bo cynnyrch cyntaf y gwanwyn ar gael.

A bydd dirion wrth bawb y mae hi'n hirlwm arnynt, heb gynhaeaf na chartref.

Wedi i ddwy fuwch a dynewad a llo fod yn y beudy trwy oerni'r hirlwm, erbyn dechrau Ebrill, mi fyddai'r tamaid awyr fyddai i'w weld trwy'r drws o'r beudy dros ben y domen yn mynd yn llai ac yn llai a'r llwybr i basio rhwng y drws a'i godre yn mynd yn gulach ac yn gulach.

Y mae'r plu chweochrog yn rhan annatod o dymor yr hirlwm a diau y gwna'r eira lawer o les wrth ladd hadau anhwylderau mewn dyn ac anifail a thir.

O agor hwn gwelwn fod anrhegion prin ynddo i'n cario drwy'r heth a'r hirlwm nes bydd Mawrth arall ar y gorwel ...

Ac mewn llawer gwlad yn Affrica ac India, lawer tro dioddefodd miliynau hirlwm oedd yn ymestyn trwy'r hafau i'r hydref di-gynhaeaf.

Mae'r arferiad o addurno'r tai gyda phob math o ddeiliach fythwyrdd yn mynd yn ôl i'r oesoedd paganaidd pan oedd pobl yn cael eu hudo gan y coed fythwyrdd oedd yn ffynnu fel pe baent o dan rhyw ddylanwad hudol yn ystod hirlwm y gaeaf pan oedd pob dim arall yn ymddangos yn farw.

Oherwydd parhad aeron y gelynen, mae'n talu weithiau i'r fronfraith fawr (neu gaseg y ddrycin) eu hamddiffyn rhag adar eraill a'u dogni drwy'r hirlwm.

Wedi bwlch mor hir, credaf mai doeth ar ôl hirlwm felly yw bwrw golwg yn ôl dros y misoedd a'u digwyddiadau anghyffredin yn bennaf oherwydd y tywydd anhymorol gawsom yn hytrach na chyfyngu i un pwnc.