Yn ôl Meddygon Myddfai un ffordd i wella'r ddannodd oedd rhoi hoelen o dan y dant poenus cyn ei tharo i dderwen.
Tra byddai'r hoelen yn y goeden ni fyddai'r ddannodd yn dychwelyd gan fod y boen wedi ei drosglwyddo i'r pren.
Yr un patrwm a geid ym mhob man yng ngwneuthuriad y pedolau; lle i saith hoelen ymhob pedol, pedair yr ochr allan a thair o'r tu mewn.
Hynny yw, ffraethineb, hiwmor a sefyllfaoedd abswrd sy'n taro'r hoelen ar ei phen.
Yn naturiol ddigon byddai rhyddhau'r hormon yma ar y farchnad agored, er i'w wneuthurwyr honi ei fod yn hormon naturiol sydd yn y fuwch eisoes, yn hoelen arall yn arch gwerthiant llaeth wedi ei gynhyrchu o ganlyniad i hormon.
Hwn oedd uchafbwynt y dinistr a'r hoelen farwol yn arch yr hen gymdeithas gynefin gymdogol.
Ni ddywedaf i ond hyn am y polisi yn awr: hoelen arall yw hi yn arch yr iaith Gymraeg.
Bydd y dolennau heyrn yn seimlyd a thwym gan wres yr anifail, a byddwch yn ymdeimlo â meddalwch cynnes pêr ei gnawd wrth i chwi ymestyn i fachu'r aerwy ar yr hoelen yn y buddel.
Galw yr oedd o am i bregethwyr heddiw roi mwy o dân yn eu prgethau trwy astudio dulliau ambell i hoelen wyth fel Billy Graham ac areithwyr mawr fel Winstone Churchill, John F. Kennedy a Martin Luther King.
Weithiau fe wnâi'r gof rimyn yn y bedol fel y byddai'r hoelen bedoli yn mynd o'r golwg yn y rhimyn Ar ôl ffitio'r pedolau, a hwythau yn barod,- fe roddai'r gof hwynt yn y gasgen ddŵr a oedd yn yr efail; fe'u gosodai hwynt ar ymyl y blwch pedoli, lle yr oedd yno yr hoelion yn barod mewn lle arbennig, y rhasp a'r morthwyl pedoli hefyd.